Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r rhai sy'n ymwneud yn gyson ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ar fin cael eu gwahardd o nifer o orsafoedd rheilffordd ar draws Gogledd Cymru.
Bydd y cynllun Tynnu Caniatâd Goblygedig Yn ôl (TCG), wedi'i gyflwyno gan Trafnidiaeth Cymru a’i gefnogi gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, yn targedu troseddwyr cyson mewn gorsafoedd yng Nghaergybi, Bangor, Bae Colwyn a Phrestatyn.
Gellir defnyddio’r cynllun hefyd ar gyfer y rhai sy’n loetran yn barhaus mewn ac o amgylch gorsafoedd neu’n achosi problemau drwy gardota’n barhaus ac yn ymosodol.
Cafodd y cynllun ei gyflwyno ar ddechrau mis Medi a bydd yn parhau am gyfnod amhenodol, gyda gorsafoedd eraill yn cael eu hychwanegu os oes angen.
Bydd y rhai sy'n ymddwyn yn wrthgymdeithasol yn barhaus yn yr ardaloedd hyn yn cael hysbysiad a fydd yn eu gwahardd rhag loetran o gwmpas yr orsaf. Bydd y rhai sy'n torri'r hysbysiad yn agored i gael eu harestio.
Dywedodd PCSO Dumbell, o Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig:
“Dylai teithwyr, cwsmeriaid a gweithwyr mewn gorsafoedd allu mynd o gwmpas eu busnes mewn amgylchedd diogel a chroesawgar. Rydym yn gwybod y gall ymddygiad gwrthgymdeithasol fod yn frawychus ac yn fygythiol. Mae cyflwyno’r cynllun hwn yn ffordd arall y gallwn ni fynd i’r afael â’r mater pwysig hwn.
“Dim ond ychydig o bobl barhaus sydd ei angen i greu problemau ehangach ac rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y gorsafoedd hyn ac o’u cwmpas i sicrhau diogelwch pawb. Gall unrhyw un sy’n gweld neu’n profi ymddygiad gwrthgymdeithasol wrth deithio ein tecstio ni yn gynnil ar 61016.”
Ychwanegodd Andrew Baker, Rheolwr Gorsafoedd Gogledd-orllewin Cymru, Trafnidiaeth Cymru:
“Bydd y cynllun Tynnu Caniatâd Goblygedig Yn ôl yn rhoi hyder i’n staff a chymudwyr na fydd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei oddef.
“Byddwn ni'n delio â phobl sy’n achosi problemau a materion hirdymor.”