Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig wedi rhyddhau delweddau o ddau ddyn maent yn meddwl gall eu helpu gyda’u hymchwiliad parhaus i ymosodiad difrifol. Digwyddodd yr ymosodiad tua 7.30pm nos Sadwrn 18 Mai 2024 ar y gwasanaeth 1846 o Glasgow Canolog i orsaf reilffordd Largs.
Disgrifir y gwryw cyntaf fel un rhwng 18-20 oed, yn denau, gyda gwallt byr lliw golau wedi ei eillio ar yr ochrau. Roedd yn gwisgo crys-t pinc, trowsus lliw golau, yn cario sachell lliw golau ac yn gwisgo esgidiau Nike llwyd.
Disgrifir yr ail ddyn fel un rhwng 18-20 oed, tenau, gyda gwallt byr brown. Roedd yn gwisgo crys-t llwyd gyda logo gwyn Nike a stribedi tywyll o gwmpas y llewys. Roedd hefyd yn gwisgo cadwyn dros y crys-t yn ogystal â throwsus tywyll.
Mae swyddogion yn credu y gallai fod gan y dynion yn y delweddau wybodaeth a allai fod o gymorth i’w hymholiadau a byddent yn eu hannog nhw, neu unrhyw un sy’n eu hadnabod, i gysylltu â Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig drwy anfon neges destun i 61016 neu drwy ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu cyfeirnod 2400062889.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers ar 0800 555 111.