Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Diweddariad:
Yn dilyn marwolaeth dyn yng ngorsaf reilffordd Strawberry Hill ddoe, rydym yn cynyddu ein patrolau amlwg yn yr ardal y prynhawn yma gyda’r hwyr ac yn gweithio gyda’n cydweithwyr gyda'r Heddlu Metropolitanaidd i roi tawelwch meddwl gweladwy i’r gymuned. Mae trefniadau gwarchod y lleoliad yn parhau yn eu lle ac mae disgwyl iddynt gael eu codi yn ddiweddarach y prynhawn yma.
Cafodd ymchwiliad i lofruddiaeth ei lansio wedi i ddyn 21 oed o ardal Twickenham farw yn drist ar ôl iddo gael ei drywanu’n angheuol yn yr orsaf. Mae ei deulu wedi'u hysbysu ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol. Mae ein meddyliau'n aros gyda nhw ar yr adeg drasig hon
Credir bod y digwyddiad hwn yn gysylltiedig â digwyddiad arall yn Alexandra Close yn Twickenham am oddeutu 11.57pm. Derbyniodd bachgen 16 oed rwygiad i'w goes nad oedd yn bygwth ei fywyd. Mae ef ymhlith y rhai a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Mae pedwar yn parhau yn y ddalfa – dyn 19 oed, dyn 20 oed, bachgen 16 oed a bachgen 15 oed. Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai ein helpu i ddeall yr eiliadau cyn hyn gysylltu â BTP drwy’rddolen hon. Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
*****
Mae ditectifs gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) wedi lansio ymchwiliad i lofruddiaeth ar ôl i ddyn farw’n drist yng ngorsaf reilffordd Strawberry Hill neithiwr.
Cafodd swyddogion eu galw i’r orsaf am 11.53pm ar 8 Ionawr yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi’i anafu.
Fe wnaeth swyddogion fynychu ochr yn ochr â chydweithwyr o’r Heddlu Metropolitanaidd a Gwasanaeth Ambiwlans Llundain a chanfuwyd dyn ag anaf difrifol, a oedd yn gyson â chael ei drywanu. Er gwaethaf eu hymdrechion gorau, yn anffodus, cyhoeddwyd bod dyn yn ei 20au wedi marw yn y fan a’r lle.
Mae pedwar dyn wedi’u harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ac yn parhau yn nalfa’r heddlu’r bore ma.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Sam Blackburn: “Mae hon yn weithred ddisynnwyr o drais sydd wedi achosi marwolaeth drasig dyn ifanc. Mae'r ymchwiliad hwn yn ei gamau cynnar o hyd a bydd yr orsaf yn parhau ar gau tra byddwn ni'n parhau â'n hymholiadau.
“Rwy’n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai ein helpu i roi’r eiliadau cyn hyn at ei gilydd i gysylltu â BTP drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 630 o 08/01/24. Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111."