Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Trosedd casineb yw pan fydd rhywun yn cyflawni trosedd yn eich erbyn oherwydd eich anabledd, hunaniaeth rhyw, hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, neu unrhyw wahaniaeth gwirioneddol neu ganfyddedig arall.
Nid yw'n golygu trais corfforol yn unig. Mae rhywun sy'n defnyddio iaith sarhaus tuag atoch neu'n aflonyddu arnoch oherwydd pwy ydych chi (neu pwy maent yn credu ydych chi) hefyd yn drosedd. Enghraifft arall yw rhywun sy'n postio negeseuon difrïol neu sarhaus amdanoch ar-lein.
Efallai yr hoffech ei annwybyddu os yw'n digwydd i chi. Ond os na fyddwch yn dweud wrthym, ni fyddwn yn gwybod amdano ac ni allwn ei atal rhag gwaethygu, i chi neu i rywun arall. Hyd yn oed os nad ydych yn siŵr a yw'n drosedd ai peidio, dylech ei riportio, fel y gallwn ymchwilio
Bydd mwyafrif y bobl sydd yn defnyddio ac yn gweithio ar draws y rhwydwaith yn saff ac yn ddiogel ond os ydych yn profi neu'n gweld trosedd gasineb, dywedwch wrthym fel y gallwn weithredu.
Rydym yn falch bod ein swyddogion a'n staff yn dod o bob cefndir ac rydym yn credu bod gan bawb yr hawl i deithio'n ddiogel. Ni fyddwn yn goddef ymddygiad lle mae rhywun yn cael ei dargedu oherwydd ei fod yn wahanol neu'n cael ei wneud i deimlo'n anghyfforddus ar ei daith
Tecstiwch ni ar 61016 neu ffoniwch 0800 40 50 40 ar unrhyw adeg.
Os ydych chi mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999bob amser.
Ewch i'r wefan True Vision i gyflwyno adroddiad. Gallwch wneud hyn yn ddienw os ydych yn dymuno. Bydd y wybodaeth yn cael ei throsglwyddo i'r heddlu i ymchwilio iddi.
Ar gyfer digwyddiadau gwrth-Fwslimaidd ewch i wefan Tell MAMA , ffoniwch 0800 456 1226 neu galwch drwy WhatsApp 0734 184 6086.
Ar gyfer digwyddiadau gwrthsemitig ewch i wefanYmddiriedolaeth Diogelwch Cymunedol neu ffoniwch 0208 457 9999.