Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dim Ail Gyfle: Ymgyrch Diogelwch Croesfannau Rheilffordd
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a phartneriaid yn y diwydiant rheilffyrdd yn annog y cyhoedd i gymryd diogelwch croesfannau rheilffordd o ddifrif, yn dilyn cynnydd mewn digwyddiadau angheuol ar draws rhwydwaith rheilffyrdd Prydain.
Mae'r ymgyrch Dim Ail Gyfle yn tynnu sylw at beryglon gwirioneddol camddefnyddio croesfannau rheilffordd ac yn herio'r gorhyder peryglus sydd gan lawer o bobl o amgylch trenau.
Pam mae'r ymgyrch hon yn bwysig
Ers mis Ionawr 2025, mae 16 o bobl wedi cael eu lladd mewn digwyddiadau damweiniol ar groesfannau rheilffordd, ar ôl mwy na blwyddyn heb unrhyw farwolaethau. Mae ymchwil newydd yn dangos, er bod y rhan fwyaf o bobl yn credu eu bod yn deall y risgiau, bod llawer yn methu ag adnabod arwyddion rhybuddio allweddol neu'n tanamcangyfrif pa mor gyflym a phwerus yw trenau.
Nid oedd bron pawb a holwyd yn sylweddoli pa mor hir mae'n ei gymryd i drên stopio mewn argyfwng. Ar 80mya, gall trên gymryd tua milltir i ddod i stop llwyr, ac mae llawer o drenau'n teithio'n gyflymach na hyn.
Mae oedolion ifanc rhwng 18 a 34 oed mewn perygl arbennig. Mae llawer yn cyfaddef eu bod yn defnyddio eu ffonau, yn gwrando ar gerddoriaeth trwy glustffonau, yn sgwrsio, neu'n rhuthro wrth groesi. Mae'r tynnu sylw hyn yn lleihau ymwybyddiaeth a gallant fod yn angheuol.
Pan yw’n fater ohonoch chi yn erbyn trên, does dim ail gyfle
Mae tua 6,000 o groesfannau rheilffordd ledled y DU, o lwybrau troed gwledig i ffyrdd cyhoeddus prysur. Mae gan rai rwystrau llawn a larymau, tra bod eraill yn dibynnu ar bobl yn stopio, edrych a gwrando cyn croesi.
Un peth sydd gan bob croesfan reilffordd yn gyffredin yw hyn: ni all trenau stopio'n gyflym ac ni allant wyro. Os gwneir camgymeriad, mae'r canlyniadau'n ddifrifol.
Mae swyddogion Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn mynychu digwyddiadau difrifol mewn croesfannau rheilffordd bob mis. Lle mae pobl yn anwybyddu rhybuddion yn fwriadol neu'n peryglu bywydau, cymerir camau gorfodi.
Sut i gadw’n ddiogel ar groesfannau rheilffordd
Dim ond ychydig eiliadau y mae'n eu cymryd i ddefnyddio croesfan reilffordd yn ddiogel:
Darllenwch arwyddion bob amser a dilynwch y cyfarwyddiadau.
Ufuddhewch i oleuadau, larymau a rhwystrau bob amser.
Stopiwch, edrychwch a gwrandewch cyn croesi.
Osgowch yn hyn sy’n tynnu’ch sylw. Rhowch ffonau i gadw a thynnwch glustffonau.
Gwiriwch y ddau gyfeiriad. Efallai bod mwy nag un trên.
Croeswch dim ond pan fydd yr holl lwybrau'n glir a'r rhybuddion wedi dod i ben.
Peidiwch byth â stopio nac aros ar groesfannau rheilffordd.
Ynghylch yr ymgyrch
Ymgyrch ddiogelwch ar y cyd dan arweiniad Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, Network Rail a phartneriaid rheilffyrdd yw Dim Ail Gyfle. Mae'n rhedeg ar draws hysbysebu digidol, cymdeithasol ac awyr agored, gan ddefnyddio ffilmiau byr i dynnu sylw at ganlyniadau gwirioneddol ymddygiad peryglus ar groesfannau rheilffordd.
Meddai’r Prif Arolygydd Joseph Gorman, Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig: “Mae'n hanfodol bod cerddwyr a gyrwyr yn rhoi gofal a thalu sylw ychwanegol ar groesfannau, rheilffordd, gan y gall y canlyniadau o’u camddefnyddio fod yn drychinebus yn hawdd. Efallai eich bod chi'n meddwl, yn syml, eich bod chi'n arbed peth amser, ond os byddwch chi'n methu neu'n anwybyddu'r arwyddion rhybuddio yn fwriadol yna gallech fod yn rhoi eich hun ac eraill mewn perygl difrifol iawn, ac nid yw hynny byth yn werth chweil.
“Rydym yn ymateb i ddigwyddiadau ar groesfannau rheilffordd bob mis, a thrwy batrolau, teledu cylch cyfyng, a gwaith agos gyda Network Rail, byddwn bob amser yn ceisio erlyn y rhai sy'n eu camddefnyddio. Meddyliwch yn ddoeth wrth i chi agosáu at groesfannau rheilffordd- byddwch yn amyneddgar, a pheidiwch â chymryd unrhyw risgiau.”
Gall ychydig eiliadau o amynedd achub eich bywyd