Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ein staff a'n swyddogion yn dilyn ein gweledigaeth, cenhadaeth a gwerthoedd fel y gallwn ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl. Ein nod yw i chi fynd adref yn ddiogel ac ar amser.
Ein gweledigaeth yw gweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid yn y diwydiant i ddarparu system drafnidiaeth sy'n saff, diogel, dibynadwy ac sy'n ehangu.
Ein cenhadaeth yw diogelu a gwasanaethu amgylchedd y rheilffyrdd a'i gymuned, gan sicrhau fod lefelau amhariad, troseddu ac ofn troseddu cyn ised â phosibl.
Bod yn ymatebol i anghenion a galwadau ein rhanddeiliaid ac ymrwymo i ddarparu'r lefelau gorau oll o wasanaeth.
Gweithredu â gonestrwydd a dilysrwydd, gan arddangos parch a dealltwriaeth.
Mabwysiadu ymagwedd synhwyrol ac ymarferol a herio biwrocratiaeth.
Hyrwyddo hyder yn BTP a'r Gwasanaeth Heddlu, gan ddarparu safon ddibynadwy a chyson o wasanaeth.
Ymdrechu drwy'r amser i gyflawni'r canlyniadau gorau ar gyfer y rheilffyrdd, a'r cyhoedd a BTP.
Darparu gwasanaeth clyfar, medrus a chyson bob tro, gan gynrychioli BTP yn y golau gorau.
Ymfalchïo mewn gweithio i BTP a gwasanaethu'r gymuned.
Yn 2020 lansiwyd ein cynllun gweithredu Symud y Nodwydd, gan nodi ein hymrwymiad i fynd i'r afael â hilliaeth a thuedd anymwybodol a gwneud BTP yn heddlu tecach a mwy cynhwysol. Mae symud y Nodwydd yn gynllun uchelgeisiol, eang sydd wedi'i lunio trwy drafod â chroestoriad o'n gweithwyr.
Lawrlwytho: Cynllun Gweithredu Symud y Nodwydd
Mae Symud y Nodwydd yn rhan o'n Strategaeth Cynhwysiant ac Amrywiaeth ehangach ar gyfer 2019 i 2022
Yn Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, rydym yn cymryd ein hymrwymiad i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant o ddifrif.
Rydym am sicrhau bod ein gweithle mor gynhwysol ag y gall fod, a bod popeth rydym yn ei wneud yn helpu ein pobl i deimlo'n fwy diogel, hapusach a mwy cynhyrchiol yn y gwaith. Rydym yn gwybod bod hyn yn ein gwneud yn gyflogwr gwell a hefyd yn ein helpu i ddenu, recriwtio a chadw gweithlu amrywiol. Rydym hefyd yn gwybod bod cael gweithlu amrywiol yn dda i fusnes ac yn ein helpu i ddarparu'r gwasanaeth gorau oll i'n holl ddefnyddwyr gwasanaeth; p'un a ydynt yn gweithio neu'n teithio ar y rhwydwaith rheilffyrdd.
Rydym am i bawb sy'n gweithio neu'n gwirfoddoli i ni chwarae rhan weithredol yn y gwaith o sicrhau ein bod yn gyflogwr teg, moesegol a chynhwysol lle mae pobl yn teimlo y gallant ddod â'u hunain cyfan i'r gwaith. Mae gan bawb yn BTP rôl i'w chwarae wrth greu'r sefydliad rydym am fod.
I ddysgu rhagor, lawrlwythwch gopi o Strategaeth Cynhwysiant ac Amrywiaeth y llu isod.
I weld rhagor o wybodaeth gallwch anfon e-bost at y tîm amrywiaeth