Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ymgyrch "Peidiwch â chymryd yr abwyd" yn codi ymwybyddiaeth o'r tactegau mae gangiau llinellau cyffuriau yn eu defnyddio i fanteisio ar blant.
Term a ddefnyddir pan yw cyffuriau'n cael eu hanfon o ddinasoedd mawr i drefi llai yw 'llinellau cyffuriau'. Yn aml, mae plant neu bobl ifanc yn eu harddegau yn cael eu defnyddio i gludo'r cyffuriau.
Gall pobl sy'n ymwneud â llinellau cyffuriau ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i geisio recriwtio eraill i gludo cyffuriau. Gallant gynnig anrhegion neu arian yn gyfnewid am gario pecynnau ar y trên iddyn nhw.
Efallai eu bod nhw'n ymddwyn fel ffrindiau neu fel bod yr hyn maen nhw'n gofyn i chi ei wneud yn ddibwys - ond mae'n fagl.
Mae'r person sy'n cario'r cyffuriau mewn sefyllfa beryglus a bydd yn derbyn ychydig iawn o arian o'i gymharu â gweddill y gang. Maen nhw'n aml yn cael eu maglu neu'n cael eu twyllo i barhau i weithio i'r llinell. Gallai'r gang drefnu i rywun gael ei ladrata, sy'n golygu eu bod yn credu eu bod mewn dyled ac yn gorfod gweithio am ddim.
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn cynnal ymgyrchoedd ar y rhwydwaith rheilffyrdd ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban bob dydd er mwyn atal cyffuriau'r llinellau cyffuriau rhag cael eu symud rhwng lleoliadau. Rydym bob amser yn trin plant sy'n ymwneud â llinellau cyffuriau fel dioddefwyr posib ac mae gennym arbenigwyr a fydd yn rhoi mesurau diogelu ar waith i gael pobl sy'n cael eu hecsbloetio i ffwrdd o niwed.
