Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym wedi ymuno â heddluoedd a sefydliadau ledled y wlad i hyrwyddo'r ymgyrch Clowch yn ddwbl.
Mae'r ymgyrch yn atgoffa beicwyr i gloi eu beic ddwywaith – neu, os nad yw hynny'n bosibl, o leiaf ei gloi drwy'r ffrâm a'r olwyn. Dyma'r arddulliau cloi sy'n darparu'r amddiffyniad gorau rhag lladron.
Mae hefyd yn gofyn i feicwyr gofrestru eu beic ar wefan olrhain fel BikeRegister.com. Mae hyn yn ei gwneud yn bosibl i ni ailuno beicwyr â beiciau wedi'u dwyn.
Cadwch eich beic yn ddiogel drwy ddilyn ein cyngor.