Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os yw eich beic erioed wedi cael ei ddwyn, fe wyddoch pa mor dorcalonnus y gall hynny fod. Bydd ein hawgrymiadau ymarferol yn helpu i gadw’ch beic yn ddiogel ac allan o grafangau lladron - a hefyd yn eich cynghori ynglŷn â sut i’w gael yn ôl os caiff ei ddwyn.
Y peth pwysicaf i’w gofio yw cloi eich beic ddwywaith a chofrestru rhif y ffrâm.
Dilynwch y 10 cyngor isod i sicrhau bod eich beic yn aros yn ddiogel ac nad yw’n dod yn un o’r ystadegau.
Mae defnyddio dau glo yn arafu lladron ac yn gwneud eich beic yn llai o darged. Defnyddiwch ddau glo o ansawdd da, gydag o leiaf un ohonynt yn glo D. Mae lladron yn llai tebygol o gario gwahanol fathau o offer, felly defnyddiwch ddau fath gwahanol o glo os yw hynny’n bosibl.
Clowch y ffrâm a’r ddwy olwyn wrth stondin feiciau gadarn.
Clowch eich beic mor agos â phosibl i’r stondin fel nad oes gan ladron lawer o le i weithio.
Ewch â’r rhannau y gellir eu datgysylltu’n hawdd gyda chi, megis olwynion, goleuadau, basgedi neu’r sedd. Neu defnyddiwch sgiwerau neu nytiau cloi a fydd yn gallu gwella diogelwch y beic drwy wneud yn siŵr bod y cydrannau’n sownd i’r ffrâm yn barhaol.
Clowch eich beic mewn man parcio beiciau diogel cydnabyddedig. Dylai fod wedi’i oleuo’n dda ac yng ngolwg teledu cylch cyfyng.
Cofrestrwch eich rhif ffrâm ar gronfa ddata cofrestru beiciau cenedlaethol a gymeradwyir gan Secured by Design. Gellir gweld rhif y ffrâm fel arfer o dan y beic rhwng y pedalau neu lle mae’r olwyn gefn yn ffitio. Os caiff eich beic ei ddwyn a’i ganfod gan yr heddlu, gellir ei olrhain yn ôl i chi.
Rhowch farc diogelwch ar eich beic. Mae’n ffordd weladwy ac effeithiol iawn i atal lladron beiciau. Maent yn gwybod os cânt eu dal gyda beic sydd wedi’i gofrestru, y gellir dod o hyd i’r perchennog a byddant yn cael eu harestio. Gellir dod o hyd i gynhyrchion marcio diogelwch yn Secured by Design.
Cymerwch yr un gofal i gloi eich beic yn ddiogel ar eich cartref ag y byddech yn ei wneud yn y stryd. Osgowch hysbysebu i ladron bod gennych feic gartref, er enghraifft, drwy dynnu raciau to car, a chreu ‘parthau preifatrwydd’ ar apiau fel Strava fel nad ydych yn datgelu eich lleoliad.
Gofynnwch am brawf o berchnogaeth a gwiriwch rif ffrâm y beic ar gronfeydd data cofrestru beiciau cenedlaethol a gymeradwyir gan Secured by Design.
Os yw eich beic wedi cael ei ddwyn, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl drwy ffonio 101 neu riportio'r lladrad ar-lein. Rhowch rif y ffrâm, rhif y gronfa ddata beiciau, llun ac unrhyw fanylion eraill i ni a gwnewch yn siŵr eich bod yn diweddaru’r statws ar y gronfa ddata beiciau y gwnaethoch gofrestru arni. Po gyntaf y byddwn yn gwybod, y cynharaf y gallwn weithredu, a gallai hynny rwystro’r beic rhag cael ei werthu ymlaen.
Mae gwahanol bethau y gallwch eu gwneud os bydd eich beic yn mynd ar goll. Pa bynnag un y byddwch yn ei wneud, gwnewch yn siŵr eich bod yn ei wneud cyn gynted â phosibl. Mae amser yn hollbwysig.
Bydd Stolen Bikes in the UK yn helpu i ledaenu’r gair am ladrad eich beic ac yn cynnig cyngor i’ch helpu i’w gael yn ôl.
Mae Find that bike yn rhestru hysbysebion am feiciau a roddir mewn marchnadoedd ar-lein, lle gallwch wirio’n aml i weld a yw eich beic chi wedi’i restru fel un sydd ar werth.
Fel arfer hysbysebir beiciau o fewn 24 awr iddynt gael eu dwyn ond os na wneir hynny parhewch i edrych gan y gallant weithiau gymryd ychydig fisoedd i ymddangos.
Gallai hefyd fod yn fuddiol i fynd i’r fforymau canlynol a phostio arnynt: