Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae system uwch-gwynion yr heddlu yn caniatáu i sefydliadau dynodedig godi pryderon ar ran y cyhoedd am batrymau neu dueddiadau niweidiol mewn plismona.
Mae'r Coleg Plismona, Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (HMICFRS) a Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn gyfrifol am asesu, ymchwilio ac adrodd ar uwch-gwynion yr heddlu. Unwaith y bydd y gŵyn wedi cael ei hymchwilio, cyhoeddir adroddiad a fydd yn cynnwys eu hargymhellion.
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn adolygu'r holl uwch-gwynion a dderbyniwyd. Mae ein hymateb i'w weld isod.
Yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad i uwch-gŵyn Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh ar ymateb yr heddlu i stelcio, mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig wedi ymrwymo i wella ein heffeithiolrwydd gweithredol a’n hymateb yn y maes hwn.
Mae archwiliad trylwyr o ymateb yr heddlu i stelcio wedi'i gynnal gan yr IOPC, HMICFRS a'r Coleg Plismona sydd wedi arwain at nifer o argymhellion i wella ymateb yr heddlu i stelcio. Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig wedi adolygu pob un o’r argymhellion hyn ac yn gweithio’n galed i’w rhoi ar waith yn ein busnes dyddiol.
Rydym wedi penodi swyddog gweithredol Ditectif Brif Uwch-arolygydd Sarah White ac arweinydd tactegol, Ditectif Brif Arolygydd Nia Mellor. Mae'r ddau ohonynt wedi ymrwymo i wella'r ymateb cychwynnol, cymorth i ddioddefwyr, ffocws ar gyflawnwyr a chanlyniadau ymchwiliol i adroddiadau o stelcian. Gan weithio ar y cyd â thimau ar draws BTP, mae camau gweithredu wedi'u neilltuo i benaethiaid adran ac mae gwaith eisoes ar y gweill i wneud gwelliannau. Mae rhai o'r gofynion eisoes yn eu lle o fewn BTP ac mae gwaith yn mynd rhagddo i bontio'r bylchau a gwreiddio'r argymhellion yn llawn.
Rydym yn adolygu ac yn gwella ein rhaglenni hyfforddi ar gyfer yr holl staff gweithredol yn systematig, gan ganolbwyntio'n benodol ar y rheini a fydd yn ymateb i droseddau stelcio ac yn ymchwilio iddynt. Gyda ffocws o’r newydd ar adnabod cyflawnwyr ac ymddygiadau stelcian yn gynnar, sicrhau’r dystiolaeth orau gan ein dioddefwyr, a dyrannu’r cymorth priodol drwy gydol y broses adrodd ac ymchwilio gyfan. Byddwn ni'n cryfhau ein cysylltiadau â gweithwyr achos eiriolaeth stelcio annibynnol (ISAC’s) ac arbenigwyr allanol eraill i ddarparu dull mwy cyfannol o gefnogi dioddefwyr a gwneud y defnydd gorau o Orchmynion Diogelu rhag Stelcio i atal aildroseddu.