Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cynllun Gweithredu Hil yr Heddlu
Cynllun Gweithredu Hil yr Heddlu (PRAP) yw'r ymdrech gydlynol fwyaf erioed ar draws pob heddlu yng Nghymru a Lloegr i wella ymddiriedaeth a hyder mewn plismona ymhlith cymunedau Duon.
Mae cynllun Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) wedi'i alinio â chynllun Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu (NPCC). Mae cynllun BTP yn anelu'n benodol at wella plismona ar gyfer cymunedau Duon sydd yn defnyddio'r rheilffordd ac yn gweithio arni ac i fynd i'r afael â thangynrychiolaeth yn ein prosesau recriwtio, cadw a datblygu pobl Dduon ein hunain. Ein huchelgais yw bod yn heddlu gwrth-hiliol.
Mae hiliaeth yn parhau i effeithio ar blismona heddiw, ac mae meithrin perthynas gryfach a mwy cyfiawn â chymunedau Duon yn hanfodol i sicrhau diogelwch heb or-blismona. Mae'r anghyfiawnderau hanesyddol, o'r hiliaeth agored a wynebwyd gan y genhedlaeth Windrush i'r plismona gormodol a gyfrannodd at derfysgoedd Brixton ym 1981, yn parhau i fod yn berthnasol heddiw. Mae adroddiadau fel Scarman (1981), Macpherson (1999), a Casey (2023) wedi tynnu sylw at anghydraddoldebau hiliol parhaus, ond mae cynnydd ystyrlon wedi bod yn araf. Mae data'n dangos bod unigolion Duon yn cael eu stopio a'u chwilio neu wedi bod yn destun defnydd grym anghymesur gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, gan godi pryderon ynghylch tegwch ac atebolrwydd. Er bod llawer o oedolion Duon yn cefnogi stopio a chwilio i fynd i'r afael â throseddu, mae pryder sylweddol ynghylch sut mae'r pwerau hyn yn cael eu cymhwyso'n ymarferol, ag astudiaethau'n datgelu ei effaith negyddol a thrawmatig barhaol. Mae mynd i'r afael â'r materion hyn yn galw am ddealltwriaeth ddyfnach o sut mae plismona'n effeithio ar gymunedau Duon ac ymrwymiad i newid ystyrlon.
Y weledigaeth ar gyfer Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) yw bod yn sefydliad sy'n wrth-hiliol ac y mae pobl Dduon yn ymddiried ynddo.
Nod Cynllun Gweithredu Hil yr Heddlu BTP – Gwella Plismona i Bobl Dduon, a gefnogir gan ein strategaeth Cynhwysiant ac Amrywiaeth, yw paratoi’r ffordd i ddod yn weithredol wrth-hiliol.
Bydd y Cynllun yn llywio arfer plismona gweithredol, gyda'r nod o wella'r profiad a'r canlyniadau i bobl Dduon. Ein nod yw dysgu o brofiadau ein cymunedau a chyflogeion Duon er mwyn dylanwadu'n uniongyrchol ar ein polisïau a'n harferion, fel nad yw cymunedau Duon yn teimlo eu bod yn cael eu gor-blismona a'u bod yn cael eu tanamddiffyn; cynyddu ymddiriedaeth a hyder trwy sefydliad cynrychioliadol sy'n dod ag amrywiaeth o feddwl i'n gwaith a sicrhau bod ein holl gyflogeion, waeth beth fo'u hethnigrwydd, yn gwybod sut i chwarae eu rhan.
5,327KB
2,557KB