Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn gofyn i'n teithwyr ac aelodau'r cyhoedd yn rheolaidd am amrywiaeth o faterion i sicrhau y gallwn ymateb i anghenion ein cymuned.
Gofynnwn i ddioddefwyr troseddau am eu lefelau boddhad ar bob cam o'u cyswllt â ni. Mae canlyniadau’r arolygon hyn yn cael eu mesur i sicrhau ein bod yndiwallu’n hymrwymiad ansawdd gwasanaeth, ac yn cydymffurfio â Chod Ymarfer y Dioddefwyr. Rydym yn gwrando ar yr holl adborth gan ddioddefwyr troseddau, ac os oes angen, rydym yn newid ein harferion i sicrhau bod dioddefwyr yn cael gwasanaeth o'r ansawdd uchaf gennym.
Mae gennym adran am ddiogelwch ar y rheilffordd yn yr Arolwg Cenedlaethol o Deithwyr bob dwy flynedd a gynhelir gan Transport Focus.
Rydym hefyd yn ymateb i ganlyniadau Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr, un o’r arolygon ymchwil gymdeithasol mwyaf a gynhaliwyd yng Nghymru a Lloegr ac mae’n cynnwys cyfrif o brofiadau pobl o droseddu.
Mae gwybodaeth a dderbynnir o'r Arolwg Cenedlaethol o Deithwyr ac Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr yn ein helpu i ddeall a dadansoddi ofn troseddu ar y rheilffyrdd yn well, ac, yn benodol, y mathau o droseddau sy'n peri pryder mwyaf i deithwyr. Mae'r canlyniadau'n caniatáu i ni dargedu ein hadnoddau at y materion mwyaf perthnasol.
Weithiau bydd ein Timau Plismona Cymdogaeth yn gofyn i deithwyr roi eu barn mewn ymateb i faterion a godir mewn cyfarfodydd cymunedol. Gall y rhain gynnwys cwestiynau ar ganfyddiadau o ddiogelwch teithwyr a pha fathau o droseddau yr hoffent i ni ganolbwyntio ein hadnoddau arnynt yn arbennig. Mae'r arolygon hyn yn caniatáu i'n swyddogion ddeall pa faterion sy'n effeithio ar deithwyr a'r gymuned leol a gweithredu i wella diogelwch a'r canfyddiad o ddiogelwch.
Mae ein Hadran Safonau Proffesiynol yn anfon holiaduron byr i fonitro lefelau boddhad ymhlith y rhai sydd wedi gwneud cwyn am y llu, neu un o'n swyddogion.
Anfonir yr holiaduron hyn at bob aelod o'r cyhoedd a swyddogion ar ddiwedd yr achos. Mae'r holiadur yn aros yn ddienw, ond bydd y canlyniadau a'r sylwadau'n cael eu cofnodi. Bydd unrhyw faterion a godir yn yr holiaduron yn ein helpu i ymateb i gŵynion yn fwy effeithiol.