Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gwirfoddolwyr ac aelodau panel cymunedol yn aelodau hanfodol o deulu Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, gan gynnig cefnogaeth amhrisiadwy ar draws llawer o’n timau ac adrannau. Boed yn un diwrnod yr wythnos neu ar sail fwy achlysurol, mae ein cyfleoedd yn hynod hyblyg ac yn croesawu cyfraniadau o bob math. Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr bob unigolyn sy’n rhoi o’i amser i’n helpu i ddarparu’r lefel uchaf o wasanaeth i’n cymuned.
Mae ein rhaglen Gwirfoddolwyr Cymorth yr Heddlu (PSV) ac ein Aelodau Panel Cymunedol, yn rhoi cyfle unigryw i aelodau'r gymuned ddod yn "ddinasyddion mewn plismona."
Fel PSV, byddwch yn dod â'ch sgiliau a'ch gwybodaeth i'n timau heddlu, gan helpu i feithrin perthnasoedd cryfach, mwy effeithiol gyda chymunedau lleol. Mae PSVs yn gwella ein gallu i gyflawni ein cenhadaeth i atal troseddu ac amddiffyn y rhai mewn angen, ac maent yn hyrwyddwyr allweddol o werthoedd BTP.
Mae aelodau ein Panel yn wirfoddolwyr sy'n cynrychioli ein cymunedau ac yn hwyluso llais y gymuned o fewn plismona. Mae'r Paneli'n ymgysylltu'n uniongyrchol ag aelodau'r cyhoedd wrth benderfynu a yw swyddogion unigol neu'r llu wedi bodloni'r gofynion cyfreithiol wrth gyflawni eu dyletswyddau.
Bydd angen i banelwyr weithio’n adeiladol gydag eraill, gan barchu gwerthoedd gwahanol a chefndiroedd amrywiol, a bod â diddordeb yn y system cyfiawnder troseddol. Bydd yn fuddiol cael meddwl chwilfrydig gyda'r gallu i ddadansoddi gwybodaeth, nodi materion allweddol sy'n peri pryder ac adrodd yn ôl pan fydd angen. Mae ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth a dealltwriaeth o effeithiau gwahaniaethu yn allweddol.
I gael rhagor o wybodaeth am ein swyddi gwag presennol, anfonwch e-bost at: [email protected]