Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn deall pa mor bwysig yw hi fod gan siaradwyr Cymraeg yr un mynediad at wasanaethau cyhoeddus â siaradwyr Saesneg.
Mae HTP yn cydnabod ei rwymedigaethau i'r Safonau Iaith Gymraeg ac yn cydnabod bod dyletswydd gyfreithiol ar yr Heddlu, wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru, i drin yr ieithoedd Saesneg a Chymraeg yn gyfartal.
Er mwyn cefnogi'r sefyllfa hon, rydym yn gweithio'n galed i gyflawni'r Safonau a nodwyd gan Lywodraeth Cymru a gwella ein gwasanaeth yn weithredol a sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn cael eu trin yn deg.
Oherwydd nad yw pob un o'n staff yn gallu siarad nac ysgrifennu Cymraeg yn rhugl mae gennym drefniadau ar waith i ddarparu cymorth cyfieithu yn ôl yr angen, ac rydym yn archwilio sut y gallwn sicrhau bod cyrsiau Cymraeg ar gael i'n swyddogion a'n staff sy'n gweithredu yng Nghymru.
Adroddiad Monitro Iaith Gymraeg 2021/22
Adroddiad Monitro Iaith Gymraeg 2020/21
Adroddiad Monitro Iaith Gymraeg 2019/20
Er mwyn cyflawni ein hymrwymiadau i'r Safonau Iaith Gymraeg, bydd gan y Dirprwy Brif Gwnstabl oruchwyliaeth strategol o'n cynlluniau a bydd yn cael ei gefnogi gan ein harbenigwr gweithredol yng Nghymru, yr Uwcharolygydd Andy Morgan, ynghyd â gweithgor ymarferol o arweinwyr gweithredol a phenaethiaid adrannau.
Bydd ein cynllun gweithredu yn amlinellu'r camau ymarferol y byddwn yn eu cyrraedd i fodloni Safonau a disgwyliadau defnyddwyr Cymraeg.
Os ydych am gysylltu â ni am unrhyw reswm mewn perthynas â'n cymhwysiad o'r Safonau Iaith Gymraeg, cliciwch yma neu ysgrifennwch atom yn yr Adran Safonau Proffesiynol, Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, 25 Stryd Camden, Llundain, NW1 9LN.