Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Er mwyn sicrhau ein bod yn darparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r cyhoedd, rydym yn gweithio o fewn cynllun strategol ac yn gosod cynllun plismona blynyddol i'n helpu i gyflawni ein hamcanion.
Mae ein Cynllun Strategol cyfredol, fel y cytunwyd ag Awdurdod Heddlu Trafnidiaeth Prydain (BTPA), yn nodi'r hyn yr ydym yn bwriadu ei gyflawni a'i gyflenwni dros gyfnod o bum mlynedd. Mae'n rhedeg rhwng 2018 a 2021 a bydd yn ein gweld yn:
Yn ogystal â'n Cynllun Strategol, rydym hefyd yn cyhoeddi ein cynlluniau plismona Cenedlaethol bob blwyddyn, yn ogystal â'n cynlluniau plismona lleol.
Mae ein cynlluniau plismona blynyddol yn nodi sut y byddwn yn cyflenwi ein nodau strategol, yn benodol dros y 12 mis nesaf, ac yn manylu ar y targedau y bydd ein llwyddiant yn cael eu mesur yn eu hôl. Maent yn ymdrin ag amcanion lleol a chenedlaethol, gan sicrhau ein bod yn cyflawni'r cydbwysedd cywir rhwng anghenion lleol a chenedlaethol.
Y Cynlluniau Strategol a Plismona yw'r blociau adeiladu yr ydym yn seilio ein mesurau perfformiad arnynt ac yn ymdrechu i lwyddo yn eu cylch. Pa weithgaredd bynnag y mae ein swyddogion a'n staff yn cymryd rhan ynddo, dylai ymwneud yn uniongyrchol ag un o'n nodau strategol neu amcanion y Cynllun Plismona.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r adran cyrchu gwybodaeth.