Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn ymwybodol o broblem sy'n effeithio ar y chwiliwr cyfeiriadau ar rai ffurflenni. Mae hyn yn gysylltiedig â phroblem gyda gwasanaeth allanol, a allai olygu na allwch gwblhau eich adroddiad neu gais ar hyn o bryd. Rydym yn monitro'r sefyllfa'n agos a byddwn yn rhoi diweddariadau cyn gynted â phosibl. Rhowch gynnig arall arni yn nes ymlaen. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Ein prif swyddogion yw ein tîm rheoli strategol. Gyda'i gilydd, maent yn goruchwylio pob agwedd ar ein llu.
Ymunodd Lucy D’Orsi â Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig fel Prif Gwnstabl ym mis Mawrth 2021, o’i swydd flaenorol fel Dirprwy Gomisiynydd Cynorthwyol dros Weithrediadau Arbenigol yn y Gwasanaeth Heddlu Metropolitanaidd. Hi hefyd yw arweinydd yr Heddlu Cenedlaethol ar gyfer galluoedd Taser a Gwrth-Drôn y DU.
Mae gan Lucy brofiad helaeth o weithio mewn amgylcheddau plismona heriol yn Llundain ac yn genedlaethol, gan gynnwys Diogelu Brenhinol ac Arbenigol, Diogelu Seneddol a Diplomyddol, Plismona Hedfan a Diogelwch Amddiffynnol, yn ogystal ag Uwch Gydlynydd Cenedlaethol Plismona Gwrthderfysgaeth ar gyfer Diogelwch a Pharodrwydd Amddiffynnol. Mae hi’n Gomander Trefn Gyhoeddus hynod brofiadol, ar ôl arwain y gweithrediadau plismona ar gyfer Ymweliad Gwladol Tsieina yn 2015 ac, yn fwy diweddar, y gweithrediadau plismona ar gyfer Nos Galan Llundain, Ymweliad Gwladol yr Arlywydd Trump ar y pryd ac Uwchgynhadledd NATO (2019)
Yn ei rôl fel Prif Gwnstabl, mae Lucy yn darparu arweinyddiaeth i weithlu mawr, gwasgaredig o dros 5,000 o swyddogion heddlu a staff ledled Cymru, Lloegr a’r Alban, yn ogystal ag arwain partneriaethau gyda’r Adran Drafnidiaeth, y gweinyddiaethau datganoledig a’r diwydiant rheilffyrdd ar draws Prydain Fawr.
Ar y cyfan, mae’n cymryd cyfrifoldeb am ddatblygu strategaeth blismona BTP ac yn arwain ein timau wrth ddarparu ein gwasanaeth yn ddarbodus ac yn effeithlon, tra’n parhau i yrru ein hymagwedd arloesol a beiddgar ar y llwyfan plismona cenedlaethol.
Dilynwch y Prif Gwnstabl D'Orsi ar Twitter
Daeth Alistair yn Ddirprwy Brif Gwnstabl BTP yn 2021, gan ymuno â ni o Heddlu Dinas Llundain.
Ymunodd Alistair â'r Gwasanaeth Heddlu Metropolitanaidd yn 1986 a gweithiodd ar draws nifer o fwrdeistrefi yn Llundain gan gynnwys Lambeth, Hounslow a Kensington. Mae ganddo arbenigedd mewn plismona digwyddiadau trefn gyhoeddus mawr a gweithrediadau arfau tanio'r heddlu, diogelwch ac ymateb. Cafodd ei ddyrchafu’n Gomander ym mis Gorffennaf 2014 ar ôl cwblhau’r Cwrs Rheolaeth Strategol yn llwyddiannus, a chymerodd rôl Comander ar gyfer Diogelu Brenhinol, Diplomyddol ac Arbenigol.
Yn ystod y cyfnod hwn, fe fu’n arwain ar gyfuno’r unedau rheoli Diogelu gan arwain at gyflwyno unedau rheoli Diogelu Brenhinol ac Arbenigol a Diogelu Seneddol a Diplomyddol.
Ymunodd Alistair â Heddlu Dinas Llundain yn 2016 ac ar hyn o bryd mae’n dal y portffolios plismona Cenedlaethol ar gyfer Troseddau Busnes, Y Cynllun Achredu Diogelwch Cymunedol, y Diwydiant Diogelwch Preifat a Gweinyddwr Prosiect. Ef yw’r arweinydd cenedlaethol ar gyfer Gorchymyn a Rheoli Gwrthderfysgaeth ac mae hefyd yn Gyfarwyddwr Cwrs y Comander Gwrthderfysgaeth.
Ymunodd Ian Drummond-Smith â Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ym mis Tachwedd 2024 o Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC), lle bu’n cydlynu ymateb yr heddlu i’r strategaeth rhyddhau’n gynnar o'r carchar ac yn goruchwylio ymchwiliadau terfysg cenedlaethol. Gyda 26 mlynedd o brofiad mewn rolau ditectif ac iwnifform, mae Ian bellach yn gwasanaethu fel Prif Gwnstabl Cynorthwyol ar gyfer Plismona'r Rhwydwaith, gan arwain y gwaith strategol o ddarparu plismona ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd i sicrhau diogelwch teithwyr a staff.
Fel Comander Aur PSU a Chomander Arfau Tanio Strategol Arbenigol, mae Ian wedi arwain nifer o ymgyrchoedd ar raddfa fawr a digwyddiadau mawr. Mae gan y rheilffordd arwyddocâd personol i Ian, y bu ei dad yn gweithio ar y rheilffordd am ddegawdau ac sydd bellach yn gwasanaethu'n rhan-amser fel gwesteiwr cwsmeriaid. Mae Ian wedi cydweithio â BTP ar ddigwyddiadau mawr megis gwyliau cerddoriaeth, gemau pêl-droed, a chynhadledd G7.
Y tu hwnt i blismona, sefydlodd Ian elusen sy’n cefnogi swyddogion a staff heddlu sydd wedi’u hanafu, ac mae'n gwirfoddoli fel swyddog achub gyda Gwylwyr y Glannau EF, gan arbenigo mewn achub ar glogwyni a dŵr.
Ymunodd Charlie Doyle â ni yn 2017 o Heddlu Surrey lle roedd yn Bennaeth Trawsnewid a Newid. Mae wedi gweithio mewn ystod eang o rolau gweithredol ers 1988 gan gynnwys Pennaeth Cyswllt Plismona Ymateb ac Ymgyrchoedd Ymgyrchoedd Arbenigol.
Mae gan Charlie brofiad helaeth o lunio a gwella galluoedd rheng flaen gyda chefndir mewn Plismona Bro. Daeth yn Brif Gwnstabl Cynorthwyol dros dro ar gyfer portffolio cymdogaeth Surrey yn 2016 ar ôl ail-lunio rôl plismona yn y gymdogaeth yn y llu.
Mae hefyd wedi bod yn Gomander Adrannol ac yn Uwch-arolygydd Ymgyrchoedd ar gyfer Gogledd Surrey. Mae'n ymuno â ni yn BTP fel y Prif Gwnstabl Cynorthwyol ar gyfer Cyswllt Cyhoeddus a Throseddau Arbenigol.
Ymunodd Rachael Etebar FCIPD â BTP ym mis Awst 2018 fel Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant ac mae’n gyfrifol am bobl, iechyd, diogelwch, lles, amrywiaeth a chynhwysiant. Cyn hynny bu’n Gyfarwyddwr Grŵp AD ar gyfer yr Adran Drafnidiaeth ac mae wedi dal nifer o uwch rolau AD o fewn y Gwasanaeth Sifil a’r sector preifat. Rachael yw Dirprwy Gadeirydd Pwyllgor Rheoli Pensiynau Swyddogion Heddlu.
Yn ei hamser hamdden mae Rachael yn gwirfoddoli fel Llywodraethwr Coleg Technoleg Farnborough lle mae’n cadeirio’r Pwyllgor Chwilio ac fel aelod o Fwrdd Ymgynghorol y Bartneriaeth Partneru AD.
Mae Rachael yn Gymrawd Siartredig o’r CIPD ac ar hyn o bryd mae’n astudio ar gyfer gradd Meistr rhan amser mewn Llywodraethu Amrywiaeth Fyd-eang ym Mhrifysgol Coventry.
Ymunodd Sean O’Callaghan â Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ym mis Mehefin 2018, o Heddlu Essex lle’r oedd yn Bennaeth Dysgu a Datblygu ar gyfer Heddlu Swydd Essex a Chaint. Dechreuodd Sean ei yrfa gyda’r Heddlu yn Essex fel Cwnstabl Gwirfoddol ym mis Ionawr 1991, cyn ymuno fel swyddog rheolaidd ym mis Mehefin 1993. Yn ystod ei 25 mlynedd o wasanaeth mae wedi dal nifer o rolau iwnifform a throseddu.
Ef yw arweinydd y llu ar gyfer Argyfyngau Sifil sy'n eistedd ar Fwrdd Cenedlaethol Prif Gyngor yr Heddlu ac ef yw'r arweinydd Strategol ar gyfer Parodrwydd gan arwain ymgysylltiad Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig â'r Rhwydweithiau Gwydnwch Lleol yn genedlaethol.
Comander Aur Trefn Gyhoeddus cymwys a Chomander Arfau Tanio Strategol. Mae’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol Sean O’Callaghan wedi arwain ymateb Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig i nifer o ddigwyddiadau allweddol, sef Gadael yr UE, Ymateb i COVID 19 a’r gweithrediad diweddaraf o Ymgyrch Forth Bridge.
Ar hyn o bryd mae'n dilyn Gradd Meistr mewn Risg, Argyfwng a Gwydnwch.
Steff Sharp yw ein Cyfarwyddwr Datblygu Corfforaethol, ar ôl cymryd y rôl dros dro ers mis Mehefin 2023.
Ers ymuno â BTP yn 2010, mae gan Steff brofiad mewn ystod eang o rolau gweithredol a chorfforaethol, gan gynnwys cyfiawnder troseddol, trawsnewid gweithredol, diogelwch a lles, datblygiad strategol, adnoddau corfforaethol ac yn fwyaf diweddar fe fu’n Bennaeth Staff y Llu.