Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ein swyddogion cyswllt â theuluoedd (FLOs) wedi'u hyfforddi'n arbennig i ddarparu llif dwy ffordd o wybodaeth rhwng teuluoedd mewn profedigaeth a'n timau ymchwilio. Maen nhw'n helpu i gefnogi'r teulu trwy ymchwiliad yr heddlu, yn ateb cwestiynau ac yn casglu gwybodaeth bwysig am yr unigolyn sydd wedi marw.
Ar ôl i rywun farw ar y rheilffordd, mae'n hanfodol casglu darlun llawn o'r hyn a ddigwyddodd cyn gynted â phosibl, fel y gallwn sefydlu achos ac amgylchiadau eu marwolaeth. Mae ein swyddogion cyswllt â theuluoedd yn ein helpu i wneud hyn yn y ffordd sydd orau i'w teulu a'u ffrindiau.
Mae swyddogion cyswllt â theuluoedd wedi'u hyfforddi i gefnogi teuluoedd a ffrindiau sydd wedi colli rhywun annwyl ar y rheilffordd. Gallant:
Gall ein swyddogion cyswllt â theuluoedd hefyd gyfeirio teulu a ffrindiau at sefydliadau lle gallant gael cefnogaeth emosiynol neu gyngor ymarferol, megis Gofal mewn Galar Cruse, Cymorth i Ddioddefwyr a'r Prosiect Cannwyll.
Er nad yw pob marwolaeth ar y rheilffordd yn cael ei hachosi gan rywun sy'n cymryd ei fywyd ei hun, rydym yn cefnogi ymgyrch y Samariaid,sy'n helpu pobl sy'n gweithio ym maes atal hunanladdiad i estyn allan at ddynion dosbarth gweithiol 30-60 oed, sydd mewn mwy o berygl o gyflawni hunanladdiad.
Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'r Samariaid i helpu ein swyddogion, staff a'r cyfryngau i ddeall mwy am hunanladdiad a sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i helpu i'w atal.
I gael rhagor o wybodaeth am y Samariaid, gan gynnwys sut i gysylltu â nhw, ewch i wefan y Samariaid.