Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi wedi gweld neu glywed rhywbeth a allai awgrymu bygythiad terfysgol i’r DU, hyd yn oed os yw’n teimlo’n fach neu ddim yn werth ei grybwyll, gwrandewch ar eich greddf a gweithredwch (ACT - Action Counters Terrorism) drwy riportio amdano. Gallai unrhyw wybodaeth fod yn bwysig, mae’n well bod yn saff ac riportio. Gallai eich gwybodaeth arbed bywyd. Isod fe welwch yr holl ffyrdd gwahanol y gallwch riportio am weithgarwch terfysgol posibl, yn ogystal ag atebion i’r cwestiynau a ofynnir yn fwyaf cyffredin i ni.
Os ydych chi’n amheus ynglŷn â rhywbeth a allai fod yn arwydd o fygythiad terfysgol yn unrhyw le yn y DU, riportiwch amdano gan ddefnyddio ein hofferyn ar-lein i riportio am weithgarwch terfysgol posibl cyflym a chyfrinachol, neu ffoniwch y Llinell Frys Gwrthderfysgaeth ar 0800 789 321.
Hyd yn oed os nad ydych yn siŵr neu eich bod yn teimlo ei fod yn fater dibwys, rhowch wybod i ni fel y gall ein swyddogion sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig ymchwilio iddo, ni anwybyddir unrhyw alwad neu riportio ar-lein. Mae staff yn gweithio 24/7 ar y llinell frys.
Mae gwasanaeth ffôn testun ar gael ar gyfer pobl sydd ag anawsterau lleferydd neu glyw ar 0800 0324539 (ni dderbynnir negeseuon testun o ffonau symudol).
Wrth gwrs, os ydych yn amau perygl ar y pryd, boed hynny’n ymddygiad, pecyn neu’n gerbyd amheus, symudwch i ffwrdd a ffoniwch 999 ar unwaith. Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu anfonwch neges destun atom ar 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw gyda’r gwasanaeth SMS brys.
Os ydych chi wedi dod ar draws gwefan neu ddeunydd ar-lein (yn cynnwys e-byst, fforymau neu gyfryngau cymdeithasol) yr ydych chi’n teimlo sydd o natur dreisgar, eithafol neu derfysgol, riportiwch am hyn gan ddefnyddio offeryn ar-lein i riportio am ddeunydd eithafol ar-lein llywodraeth y DU, sy’n gyflym ac yn ddienw.
Bydd swyddogion arbenigol yn asesu eich gwybodaeth a, lle bo hynny’n briodol, yn ymchwilio’r wefan ac yn gweithio gyda phartneriaid i’w dileu.
Wrth gwrs, os ydych chi’n amau perygl yn y fan a’r lle ffoniwch 999 ar unwaith.
Na, os nad ydych am iddynt wybod. Rydym yn trin yr holl wybodaeth yr ydych yn ei darparu yn gwbl gyfrinachol. Os oes angen i ni gysylltu â chi am unrhyw reswm fe fyddwn yn gyfrinachgar iawn.
Rydym yn gofyn i bawb sy’n darparu gwybodaeth hefyd i roi eu henw a’u manylion cyswllt, ond eich penderfyniad chi fydd hyn. Bydd darparu eich manylion cyswllt yn ein helpu i gadarnhau dilysrwydd y wybodaeth a rhoi cefnogaeth i chi cyn gyflymed â phosibl os bydd angen i ni wneud hynny.
Os byddai’n well gennych roi gwybodaeth yn ddienw, ffoniwch Crimestoppers ar 0800 555 111.
Mae hynny’n iawn. Os yw eich pryder am rywbeth yr ydych wedi’i weld neu ei glywed yn ddilys, byddai’n llawer gwell gennym eich bod yn dweud wrthym yn hytrach na’i gadw i chi eich hun. Os gwnewch hynny, gall ein swyddogion sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig edrych ar y mater. Os na fydd dim o’i le, gorau oll.
Gallwch. Gallwch siarad â’r sefydliadau isod yn gyfrinachol. Gallant drosglwyddo eich gwybodaeth i ni a’ch cadw’n ddienw.