Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn yr adran hon:
| 1. Caethwasiaeth fodern a masnachu pobl |
| 2. Sut allwch chi adnabod caethwasiaeth fodern a masnachu pobl |
| 3. Sut mae troseddwyr yn camfanteisio ar eu dioddefwyr |
| 4. Riportiwch gaethwasiaeth fodern a fasnachu pobl |
| 5. Cymorth i ddioddefwyr caethwasiaeth fodern a masnachu pobl |
Mae caethwasiaeth fodern yn drosedd ddifrifol. Mae dioddefwyr yn:
Gall bygythiadau a chosbau fod yn dreisgar yn aml, ond nid bob amser. Gallant gynnwys bygwth dweud wrth yr awdurdodau am statws mewnfudo’r dioddefwr fel y byddant yn cael eu halltudio o’r wlad.
Gall unrhyw un fod yn darged ar gyfer caethwasiaeth fodern, ond gall rhai pobl fod mewn mwy o berygl oherwydd:
Mae pedwar math o gaethwasiaeth fodern:
Caethwasiaeth yw pan fydd y sawl sy’n camfanteisio yn ‘berchen’ ar y dioddefwr, sydd â rheolaeth dros bopeth maent yn ei wneud. Nid oes ganddynt unrhyw gyfle i adael eu sefyllfa na byw eu bywydau fel maent yn ei ddymuno.
Mae hyn yn debyg i gaethwasiaeth ond mae’r gwaith y mae’r dioddefwr yn cael ei orfodi i’w wneud ar gyfer y camfanteisiwr yn cynnwys tasgau domestig fel:
Bydd y dioddefwyr yn cael eu gorfodi i fyw ar eiddo’r camfanteisiwr. Ni allant newid eu hamgylchiadau oherwydd efallai nad oes ganddynt arian, pasbort na ffordd o ddianc.
Gall y dioddefwr gael ei orfodi i gaethwasanaeth domestig gan bartner, perthynas neu rywun y maent yn byw gyda hwy nad sy’n perthyn iddynt.
Mae dioddefwyr bob amser yn fregus mewn rhyw ffordd a gallant gynnwys:
Mae ystod oedran yr oedolion yr effeithir arnynt yn amrywio o 18 i ganol eu 70au.
Llafur gorfodol yw unrhyw fath o waith, cyfreithlon neu anghyfreithlon, y mae dioddefwr yn cael ei orfodi i’w wneud yn erbyn ei ewyllys.
Gallai troseddwyr dwyllo eu dioddefwyr drwy addo gwaith â chyflog da a llety da mewn lle neu wlad arall. Ond unwaith y byddant yn cyrraedd yno, cânt eu gorfodi i weithio oriau hir am ychydig iawn o gyflog neu ddim cyflog o gwbl ac maent yn cael eu gorfodi i fyw mewn amodau gwael.
Gall dioddefwr fod yn gweithio i’r camfanteiswyr neu i rywun arall.
Gall dal fod yn gaethwasiaeth fodern os yw’r dioddefwr yn cael ei gadw mewn amodau gweddus ond yn cael ei orfodi i weithio.
Masnachu pobl yw pan fydd masnachwr yn trefnu taith rhywun i mewn i, allan o, neu o fewn y DU. Mae’r masnachwr am gamfanteisio ar y dioddefwr drwy eu gorfodi i wneud gwaith neu bethau eraill nad ydynt am eu gwneud, fel cyflawni troseddau neu weithio yn y fasnach rhyw.
Gall dinasyddion Prydain gael eu heffeithio arnynt.
Yn aml, mae masnachwyr yn defnyddio trais, cam-drin neu fygythiadau yn erbyn dioddefwyr. Weithiau maent yn dweud wrth ddioddefwyr y byddant yn cael swydd dda a bywyd gwell os byddant yn teithio gyda nhw.
Unwaith y byddant yn y DU, neu rywle newydd yn y DU, camfanteisir ar ddioddefwyr trwy reoli, bygythiadau neu rym.
Gall dynion, menywod a phlant o bob oed, ac o bob cefndir, fod yn ddioddefwyr y drosedd hon.
Nid yw smyglo pobl yr un peth â masnachu pobl. Smyglo pobl yw pan fydd rhywun yn gwneud arian o ddod â phobl i’r DU yn anghyfreithlon, yn aml mewn cychod bach neu wedi’u cuddio mewn cerbydau.
Os ydych chi’n credu bod rhywun yn gysylltiedig â smyglo pobl, gallwch ei riportio.