Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Proses a ffurflen yw Protocol Philomena. Mae'n caniatáu i wybodaeth hanfodol am berson ifanc neu blentyn sy’n wynebu risg o fynd ar goll gael ei chasglu. Mae'r wybodaeth wedyn ar gael pan fo’i hangen, ar adeg bryderus a gofidus. Mae'r protocol arferion gorau wedi'i enwi ar ôl Nawddsant Babanod, Plant Bach a Phobl Ifanc.
Gall y broses ddechrau sgwrs gyda'r nod o atal episodau yn y dyfodol. Gall hefyd ddod o hyd i risgiau, ac mae’n helpu gofalwyr gyda chamau i'w cymryd. Gall ffurflen gyfoes ddarparu gwybodaeth o safon. Gall helpu'r chwilio i ddechrau heb oedi, er mwyn dod o hyd i'r person yn ddiogel.
Dylai gofalwyr, gwarcheidwaid a rhieni lenwi'r ffurflen sy'n cynnwys:
Lawrlwythwch Ffurflen Protocol Philomena ar gyfer Person Ifanc sydd ar Goll
Llenwch y ffurflen cyn gynted â phosibl gyda chymaint o fanylion ag y gallwch. I gael rhagor o gyngor, mae canllawiau swyddogol gan Gyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu, ar gael. Ar ôl ei llenwi, mae'r ffurflen yn perthyn i'r teulu neu'r darparwr gofal neu'r awdurdod lleol. Gofalwch eich bod yn adolygu'r manylion yn aml a’u diweddaru.
Llenwch y ffurflen fel fersiwn ddigidol lle bo modd. Yna gall gael ei diweddaru a'i rhannu gyda'r heddlu. Storiwch y ffurflen yn ddiogel ar eich system gyfrifiadur. Mae angen iddi fod yn hawdd i chi, neu unrhyw ofalwr arall, ddod o hyd iddi yn y dydd neu'r nos. Fel nad ydych chi’n dibynnu ar gyfrifiadur unigol, gwnewch gopi o'r ffurflen i’w storio ar-lein wedi'i diogelu gan gyfrinair.
Ar ôl cael ei llenwi, mae'r ffurflen yn perthyn i ddarparwr gofal, rhiant neu warcheidwad y person ifanc. Ddylai'r heddlu ddim llenwi'r ffurflen, na'i chadw na'i storio ar unrhyw un o lwyfannau cofnodi’r heddlu.
Os gwelwch chi fod y person ifanc neu'r plentyn wedi mynd ar goll, cymerwch gamau rhesymol i geisio dod o hyd iddyn nhw. Bydd y ffurflen yn eich helpu gyda chamau i'w cymryd.
Os na allwch chi ddod o hyd iddyn nhw, gallwch riportio person sydd ar goll ar-lein. Defnyddiwch ffurflen Protocol Philomena i roi gwybodaeth i'r heddlu.
Os yw'n argyfwng a bod y person ifanc mewn perygl, ffoniwch 999 nawr.
Dim ond os yw'r plentyn neu'r person ifanc yn cael eu riportio ar goll y bydd angen i'r heddlu weld y ffurflen sydd wedi'i llenwi.
Trosglwyddwch y ffurflen i'r gofalwr newydd, a fydd nawr yn gyfrifol am ei chadw'n ddiogel ac yn gyfoes.
Os bydd person ifanc yn trosglwyddo i'ch gofal chi o ardal arall, gwiriwch a oes ganddyn nhw Brotocol Philomena. Erbyn hyn, chi fydd yn gyfrifol am ei chadw'n ddiogel ac yn gyfoes.