Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn yr adran hon:
| 1. Anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM) |
| 2. Sut i riportio FGM |
| 3. Sefydliadau cymorth FGM |
Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM) yw’r broses o newid, anafu neu dynnu organau cenhedlu allanol benyw yn fwriadol am resymau sydd ddim yn rhai meddygol. Weithiau cyfeirir ato fel torri organau cenhedlu benywod neu enwaediad benywod.
Mae FGM yn arfer niweidiol sy’n cael ei gynnal amlaf ar ferched o’u babandod hyd at eu harddegau. Caiff ei ysgogi’n aml, gan bwysau diwylliannol, cymdeithasol neu deuluol. Mae rhai cymunedau yn credu y bydd yn paratoi merch ar gyfer priodas, yn diogelu anrhydedd y teulu, neu’n gwella ei rhagolygon ar gyfer y dyfodol.
Weithiau cysylltir y weithred yn anghywir â chrefydd. Nid oes unrhyw ddysgeidiaeth grefyddol mewn unrhyw un o’r prif grefyddau sy’n mynnu neu’n cefnogi’r arfer hwn.
Gall FGM gael canlyniadau dinistriol i ddioddefwyr. Gall achosi poen difrifol, sioc, gwaedu, haint, trawma seicolegol, ac amrywiaeth o gymhlethdodau iechyd corfforol a meddyliol hirdymor. Mae hyn yn cynnwys anawsterau wrth roi genedigaeth.
Nid oes unrhyw fanteision iechyd i FGM. Dysgwch fwy am elfennau meddygol FGM.
Mae FGM yn fath o gam-drin plant ac yn drais yn erbyn menywod a merched. Mae’n drosedd ddifrifol yn y DU. Dylai unrhyw un sydd mewn perygl o FGM, neu sy’n poeni am rywun a allai fod mewn perygl, geisio cymorth ac adrodd am eu pryderon.
Mae FGM yn cael ei grwpio’n bedwar prif fath:
Mae Deddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod 2003 yn ei gwneud yn anghyfreithlon:
Mae FGM yn cario cosb o hyd at 14 blynedd yn y carchar.
Mae nifer o arwyddion y gallai merch fod wedi dioddef FGM:
Yn aml, fydd plant ddim yn gwybod bod FGM yn mynd i ddigwydd. Mae hyn yn golygu efallai na fydd llawer o arwyddion rhybuddio cyn iddo ddigwydd. Ond, weithiau fe fydd plant yn gwybod ymlaen llaw, sy’n gallu arwain at newid yn eu hymddygiad, megis gofyn am gyngor neu help gan weithwyr proffesiynol a ffrindiau.