Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i'r person neu'r cwmni sy'n berchen ar y cerbyd ddweud pwy yw’r gyrrwr; os byddwch yn methu â gwneud hyn, bydd gwrandawiad yn y llys lle bydd rhaid ichi egluro pam na allwch ddweud pwy ydyn nhw.
Mae'n drosedd peidio â darparu manylion gyrrwr. Bydd collfarn yn golygu bod chwe phwynt cosb yn cael eu hychwanegu at eich trwydded.
Ar ôl ichi anfon manylion y gyrrwr aton ni, fe anfonwn ni hysbysiad atyn nhw. Ar ôl iddyn nhw gael yr hysbysiad, mater iddyn nhw yw ymateb iddo.
Os yw'r gyrrwr yn dod o wlad arall, mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i chi fod ag yswiriant i'r person hwnnw yrru’ch cerbyd. Dydyn nhw ddim yn dod dan bolisi yswiriant a gafodd ei roi mewn gwlad arall. Bydd angen ichi gynnwys copi o'ch yswiriant chi i ddangos eu bod nhw wedi'u hyswirio i yrru’ch cerbyd ar ddyddiad y drosedd.
Os byddwch yn gadael i rywun yrru’ch cerbyd heb yswiriant, gallech gael eich erlyn am 'ganiatáu dim yswiriant'.
Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i'r person neu'r cwmni sy'n berchen ar y cerbyd ddweud pwy yw’r gyrrwr; os byddwch yn methu â gwneud hyn, bydd gwrandawiad yn y llys lle bydd rhaid ichi egluro pam na allwch ddweud pwy ydyn nhw.
Mae'n drosedd peidio â darparu manylion gyrrwr. Bydd collfarn yn golygu bod chwe phwynt cosb yn cael eu hychwanegu at eich trwydded.
Os nad chi oedd yn gyrru’r cerbyd ac nad ydych chi’n gwybod pwy oedd yn ei yrru, yna mae’n rhaid i chi esbonio hyn yn ysgrifenedig. Gallwch wneud hyn ar y llythyr/hysbysiad neu ar ddarn arall o bapur wedi’i gysylltu iddo a’i ddychwelyd i’r cyfeiriad a nodir ar y llythyr/hysbysiad o fewn 28 diwrnod.
Os oes camgymeriad wedi bod ac nad yw'r drosedd wedi'i chyflawni gennych chi neu rywun yn gyrru’ch cerbyd chi, mae’n rhaid ichi gysylltu â'r tîm camerâu cyflymder. Y cyfan y mae ei angen yw:
Cysylltwch â'r tîm camerâu cyflymder
Anghytuno ag effeithiolrwydd offer camera
Mae'r holl gamerâu gorfodi wedi'u calibradu yn unol â chanllawiau'r gweithgynhyrchwyr a'r Swyddfa Gartref.
Os ydych yn dymuno herio'r drosedd ar y sail hon, mae gennych hawl i gyfeirio’ch achos at Lys Ynadon.
Byddai'r heddlu wedyn yn darparu tystysgrif galibradu’r camera a thystiolaeth ynglŷn â’r drosedd yn y llys.
Os na fyddwch yn ymateb i'r llythyr/hysbysiad o fewn 28 diwrnod, bydd eich achos yn cael ei gyfeirio at y llys am eich bod wedi methu â darparu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani.
Mae'n drosedd peidio â darparu manylion gyrrwr. Bydd collfarn yn golygu bod chwe phwynt cosb yn cael eu hychwanegu at eich trwydded a gallech gael dirwy.
Os hoffech apelio, mae'n rhaid ichi fynd drwy'r llys, nid yr heddlu.
Mae angen ichi gwblhau'r rhannau priodol o'r hysbysiad i ddweud p'un ai chi neu rywun arall oedd yn gyrru. Mae methu gwneud hyn yn drosedd ynddo'i hun.
Ar ôl inni gael yr wybodaeth hon gennych, anfonwn lythyr atoch yn esbonio'r opsiynau sydd ar gael ichi, gan gynnwys sut i apelio.
Os byddwch yn dewis apelio, mae angen ichi fod yn ymwybodol bod y llys yn cael gwneud y canlynol, os bydd yn eich cael yn euog o'r drosedd: