Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae terfynau cyflymder yn cael eu gosod am reswm ac mae torri’r rhain yn anghyfreithlon. Y gosb isaf am oryrru yw dirwy o £100 a thri phwynt ar eich trwydded.
Os cewch 12 pwynt neu fwy o fewn tair blynedd gallwch gael eich anghymhwyso rhag gyrru.
Os ydych chi'n yrrwr newydd gymhwyso ac yn cael chwe phwynt yn ystod y ddwy flynedd gyntaf ar ôl pasio'ch prawf, bydd eich trwydded yn cael ei chanslo'n awtomatig (ei dirymu). Er mwyn ei chael yn ôl bydd angen i chi wneud cais a thalu am drwydded dros dro newydd a phasio profion theori ac ymarferol eto.
O fewn 14 diwrnod ar ôl i'ch cerbyd gael ei ddal yn goryrru bydd un o’r canlynol yn cael ei anfon at y ceidwad cofrestredig:
Rhaid i’r ceidwad cofrestredig, neu yn achos car cwmni, ysgrifennydd y cwmni, ddychwelyd yr hysbysiad o fewn 28 diwrnod gan ddweud wrth yr heddlu pwy oedd yn gyrru'r car. Os anwybyddwch yr hysbysiad, bydd y mater yn cael ei gyfeirio at y llys ynadon.
Fel y gyrrwr, gan ddibynnu ar y cyflymder, unwaith y byddwch wedi ymateb i'r hysbysiad bydd un o’r canlynol yn cael ei anfon atoch:
Gallant:
Beth i’w wneud:
Mae Beicio Diogel yn gynllun diogelwch ffyrdd cenedlaethol dan arweiniad yr Heddlu sy’n codi ymwybyddiaeth o risgiau allweddol ac yn darparu technegau reidio mwy diogel i foto-beicwyr.
Beiciwr modur sydd wedi ennill un o raddau’r heddlu neu sylwedydd a gymeradwywyd gan Beicio Diogel sy’n cynnal y gweithdai, gan roi cyngor ar ymwybyddiaeth o beryglon a reidio’n fwy diogel. Mae’r mwyafrif o’r heddluoedd yn cynnig asesu’r reidiwr ar y ffordd wedyn.