Beth yw Prosiect Kraken?
Menter genedlaethol yw Prosiect Kraken i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o derfysgaeth a gweithgarwch troseddol neu amheus o amgylch ein harfordiroedd a’n ffiniau. Mae hyn yn cynnwys lleoliadau fel:
- marinas
- angorfeydd
- porthladdoedd llai
- dociau
- ar y dŵr
Mae mathau cyffredin o droseddau arfordirol yn cynnwys:
- lladrad
- smyglo
- difrod troseddol
Beth i gadw llygad amdanynt
Pobl amheus
Os gwelwch bobl yn gwneud unrhyw un o’r canlynol, gall fod yn arwydd o weithgarwch troseddol neu derfysgol:
- defnyddio dyfeisiau fideo i recordio gorsafoedd pŵer, safleoedd milwrol, pontydd, neu seilwaith hanfodol
- tynnu lluniau, neu’n gwneud nodiadau neu luniadau o ardaloedd â chyfyngiadau a ‘safleoedd agored i ymosodiadau’, megis gorsafoedd pŵer
- osgoi ateb cwestiynau cyffredin ynglŷn â chychod, osgoi cyswllt â phobl eraill yn fwriadol, neu osgoi tynnu sylw atynt eu hunain
- rhoi gwrthrychau yn y dŵr ger pontydd, pibellau, neu seilwaith
- gwneud taliadau mawr mewn arian parod, neu ofyn am estyniad dyddiol i angorfa mewn marina neu borthladd
- prynu neu gludo offer anarferol, cemegau, lifrai, neu ddulliau adnabod
- gwneud ymdrechion i gyfeirio neu arwain cychod oddi wrth y lan
- loetran heb unrhyw synnwyr o bwrpas neu ymddwyn yn nerfus
Cerbydau amheus
Mae arwyddion posibl eraill o droseddau arfordirol yn cynnwys:
- cychod anarferol mewn marina, neu rywun sy’n ymddangos fel pe bai’n profi diogelwch marina neu ardal â chyfyngiadau i weld a ydynt yn cael eu herio
- llongau siarter neu gychod llogi amheus
- cerbydau wedi’u parcio mewn mannau anghysbell ar hyd dyfrffyrdd
- cychod yn dadlwytho pobl sy’n edrych wedi dychryn neu’n amheus
- cychod yn dadlwytho pecynnau
Arwyddion rhybudd i weithwyr morol
Os ydych yn gweithio yn y diwydiant morol, dylech hefyd gadw llygad am y mathau canlynol o weithgarwch amheus:
- criw nerfus sydd ddim fel petaent yn gwybod protocolau morol
- cychod ag addasiadau anarferol neu sydd ag arwyddion o fân ddifrod
- pobl yn siartro neu logi cychod ac yna’n gwneud ceisiadau anarferol, megis gofyn i newid llwybr neu fynd yn nes at ardaloedd â chyfyngiadau
- pobl sy’n ceisio cael gwaith ar safleoedd sensitif neu gyda chyflenwyr sydd â mynediad i ardaloedd â chyfyngiadau neu safleoedd agored i ymosodiadau
Beth allwch chi ei wneud am sefyllfa o’r fath
Os ydych yn gweld unrhyw beth sy’n eich gwneud yn amheus, dywedwch wrthym, naill ai riportiwch drosedd ar-lein, neu ffoniwch 101. Os oes gennych nam ar y clyw neu’r lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun ar 18001 101.
Os ydych yn amau gweithgarwch terfysgol posibl gallwch riportio gweithgarwch terfysgol posibl ar-lein, neu ddefnyddio’r Llinell Gymorth Gwrthderfysgaeth 0800 789 321.
Os byddai’n well gennych riportio’n ddienw, ffoniwch y Llinell Troseddau Arfordirol ar 0800 011 3304.