Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gwestai a mathau eraill o lety weithiau’n cael eu defnyddio gan droseddwyr i gamfanteisio ar blant. Mae hyn yn cynnwys camfanteisio'n rhywiol ar blant. Mae hefyd yn digwydd mewn mannau eraill mewn lletygarwch, fel siopau tecawê, siopau a chanolfannau siopa.
Mae’r heddluoedd wrthi’n gweithio ar y cyd ag asiantaethau a phartneriaid eraill i godi ymwybyddiaeth o'r drosedd yma. Maen nhw'n gwneud hyn trwy roi hyfforddiant i staff gwestai ar sut i nabod arwyddion camfanteisio a chamdriniaeth. Yr enw ar y fenter yma yw Ymgyrch Makesafe.
Mae’r arwyddion posibl o gamfanteisio ar blant mewn gwestai yn cynnwys:
Gall staff gwestai holi am les plentyn neu berson ifanc sydd gyda chi. Gall y cwestiynau hyn deimlo'n bersonol neu'n anghyffyrddus, ond trwy eu hateb gallwch helpu staff y gwesty i atal camfanteisio ar blant. Cofiwch: maen nhw'n holi er mwyn sicrhau y person sydd gyda chi yn ddiogel. Dydyn nhw ddim yn eich cyhuddo o wneud dim byd o'i le.
Os byddwch chi'n sylwi ar unrhyw un neu ragor o'r arwyddion uchod, neu'n teimlo bod rhywbeth o’i le, ffoniwch 999 ar unwaith.
Os oes gennych chi nam ar y clyw neu'r lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun ar 18000 neu anfonwch neges destun aton ni ar 999 os ydych chi wedi cofrestru ymlaen llaw gyda'r gwasanaeth SMSbrys.
Gallwch hefyd ddweud wrth un o aelodau staff y gwesty.
Does dim ots os nad ydych chi'n siŵr: y peth gorau i'w wneud yw dilyn eich greddf a riportio’r peth.
Mae staff gwestai yn chwarae rhan bwysig wrth atal camfanteisio ar blant. Trwy bartneru â'ch heddlu lleol trwy Ymgyrch Makesafe, bydd eich staff yn cael hyfforddiant pwysig. Byddan nhw’n dysgu sut i nabod arwyddion o gamfanteisio ar blant a sut i riportio pryderon i'r heddlu.
Bydd hyn yn golygu eu bod nhw’n gallu cyfrannu at amgylchedd mwy diogel i bob gwestai. Bydd hefyd yn dangos eich ymrwymiad i gyfrifoldeb cymdeithasol ac yn helpu i amddiffyn rhai o'r plant a'r bobl ifanc mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.
I wybod mwy, gallwch gysylltu â rhaglen Hydrant drwy’r ebost. Gallan nhw eich rhoi chi mewn cysylltiad â'ch cydlynydd Ymgyrch Makesafe lleol.
Gallwch hefyd weld rhagor o ganllawiau, posteri a chardiau busnes ar gyfer Ymgyrch Makesafe ar wefan rhaglen Hydrant.