Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os yw eich partner, cyn bartner neu aelod o’r teulu wedi niweidio, neu’n bygwth niweidio, eich anifail anwes gall hyn fod yn fath o gam-drin domestig.
Yn yr achosion hyn, mae troseddwyr yn cam-fanteisio ar berthynas dioddefwr ag anifail anwes neu anifail arall a gedwir fel ffordd o'u rheoli, neu eu gorfodi i weithredu yn erbyn eu hewyllys. Gall fod yn gyffredin ar ôl gwahanu, neu os yw'r troseddwr yn ceisio atal y dioddefwr rhag gadael y berthynas.
Darganfod mwy am gam-drin domestig
Darganfod mwy am droseddau'n ymwneud ag anifeiliaid
Os ydych chi'n ddioddefwr y math hwn neu unrhyw fath arall o gam-drin domestig, gallwch:
Os nad ydych yn barod i siarad â ni gallwch gysylltu â sefydliadau cymorth i gael help.
A fyddech cystal â sylwi nad yw'r naill wasanaeth na'r llall a nodir isod yn rhoi eich manylion i bobl sy'n maethu'ch anifail anwes. Gwneir pob cysylltiad drwy'r gwasanaeth, a byddwch yn cael diweddariadau rheolaidd ynglŷn â sut mae'ch anifail anwes yn ymdopi yn y cartref maeth.
Paws Protect yn Cats Protection
Gwasanaeth cyfrinachol am ddim i ddioddefwyr cam-drin domestig lle mae cathod anwes yn gysylltiedig. Mae'n cynnig lleoliadau maethu am hyd at bum mis.
Llinell gymorth: 0345 260 1280
E-bost: [email protected]
Gwasanaeth cyfrinachol am ddim sy’n cefnogi perchnogion cŵn sy’n dianc rhag cam-drin domestig. Mae’n cynnig lleoliadau maethu cŵn am hyd at chwe mis a chymorth i wneud ceisiadau am dai sy’n gyfeillgar i anifeiliaid anwes. Mae'n cwmpasu Llundain a De-ddwyrain Lloegr.
Llinell gymorth: 0800 298 9199
E-bost: [email protected]