Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gall troseddau bywyd gwyllt ac anifeiliaid fod yn faes cymhleth i’w ddeall.
I gael gwybod beth yw troseddau bywyd gwyllt, ewch i’n tudalen am droseddau bywyd gwyllt.
Ymhlith y troseddau sy'n ymwneud ag anifeiliaid nad ydyn nhw'n droseddau bywyd gwyllt, mae:
Mae poeni da byw yn drosedd o dan Ddeddf Cŵn (Diogelu Da Byw) 1953.
‘Poeni’ yw lle mae ci yn erlid neu’n ymosod ar dda byw, gan achosi anafiadau neu ddioddefaint.
Nid bygythiad i fywoliaeth y ffermwr neu’r tirfeddiannwr yn unig yw hyn, mae hefyd yn sefyllfa beryglus i'r anifeiliaid dan sylw, a gallai arwain at risg pellach pe bai'r anifeiliaid yn cyrraedd y ffordd fawr.
Mae hawl gan y ffermwr i ladd y ci os yw’n poeni ei dda byw.
Dylech wastad gadw eich ci o dan reolaeth pan fydd anifeiliaid eraill o amgylch, ac os gwelwch chi gi yn rhydd ac yn poeni anifeiliaid, riportiwch y peth ar-lein.
Gall anifeiliaid pori fod yn darged hawdd yn enwedig mewn ardaloedd gwledig anghysbell.
Cofiwch fod pasbort ceffylau yn ofyniad cyfreithiol. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut i wneud cais am basport ceffylau.
Riportiwch lladrad da byw ar-lein
Mae hela llwynogod yn anghyfreithlon; mae hela drwy ddilyn trywydd a llusgo (lle mae’r helfa yn dilyn arogl artiffisial sy’n cael ei osod ar y llwybr) yn gyfreithlon. Gellir defnyddio cŵn yn gyfreithlon fel rhan o helfa dilyn trywydd a llusgo.
Ceir eithriadau o dan Ddeddf Hela 2004 sy’n caniatáu i anifeiliaid gwyllt (gan gynnwys llwynogod) gael eu lladd ‘heb greulondeb’. Gellir defnyddio cŵn yn gyfreithlon i godi llwynog er mwyn iddo gael ei saethu.
Mae’n drosedd i:
Os ydych yn credu bod rhywun wedi torri’r gwaharddiad ar hela llwynogod, yna mae trosedd bywyd gwyllt wedi’i chyflawni, mae angen i chi roi gwybod i ni drwy ei riportio ar-lein.
Creulondeb i anifeiliaid yw pan nad yw rhywun yn gofalu am anifail neu'n brifo anifail yn fwriadol.
Gall gynnwys unrhyw beth o drais corfforol i drallod neu esgeulustod meddyliol bwriadol, er enghraifft peidio â bwydo neu lanhau anifail.
Os ydych chi'n gweld, neu'n amau, y gallai rhywun fod yn trin anifail yn wael, boed yn drais corfforol, esgeulustod neu unrhyw fath arall o greulondeb, dylech ei riportio i llinell greulondeb yr RSPCA (8am-8pm, saith diwrnod yr wythnos).
Gallwch gysylltu â nhw ar 0300 1234 999. Bydd yr alwad yn costio’r un faint ag unrhyw alwad arall i rif llinell dir y DU.
Rydym yn gweithio gyda’r RSPCA i ymchwilio i achosion o greulondeb i anifeiliaid.
Mae'n drosedd gadael i gi fod yn afreolus o beryglus – yn gyhoeddus neu'n breifat.
Ystyrir bod ci yn afreolus os yw’n:
Gall llys hefyd benderfynu bod eich ci yn afreolus o beryglus os:
Cofiwch, mae gan ffermwr yr hawl i ladd eich ci os yw’n poeni eu da byw.
Os gwelwch chi gi yn rhydd, riportiwch hynny ar-lein.
Os yw'n ymddangos ei fod allan o reolaeth, dywedwch wrthym trwy ffonio 0800 40 50 40.
Yn y DU, mae’n anghyfreithlon i berchen ar fathau penodol o gŵn, sef:
Mae hefyd yn anghyfreithlon:
Mae p'un a yw eich ci o fath sydd wedi’i wahardd yn dibynnu ar sut mae'n edrych, yn hytrach na'i frîd neu ei enw.
Gallwch ddarllen mwy o wybodaeth am gŵn sydd wedi’u gwahardd.
Os ydych yn credu bod rhywun wedi neu wrthi’n bridio cŵn anghyfreithlon, dylech riportio hynny ar-lein.
Os yw'n ymddangos ei fod allan o reolaeth, dywedwch wrthym trwy ffonio 0800 40 50 40.
Mwy o wybodaeth a gwasanaethau sy’n cwmpasu anifeiliaid anwes:
Cyn ichi riportio bod ci wedi’i ddwyn, gwnewch yn siŵr nad yw’r ci:
Os ydych chi’n credu bod eich ci wedi cael ei ddwyn, fe allwch chi:
Byddwch yn barod i roi cymaint o wybodaeth ag y gallwch inni, gan gynnwys:
Fe ddylech chi hefyd: