Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn fras, twyll busnes yw’r bwriad neu’r weithred o gamliwio - sgamwyr sy’n dweud celwydd am eu hunain neu eu gweithredoedd – i ennill neu golli.
Gydag adnoddau prin ac mewn amodau economaidd anodd, mae busnesau bach a chanolig yn dueddol o feddwl mwy am arloesedd, twf a goroesi yn hytrach na diwydrwydd dyladwy, rheolaethau’r we a rheoli risg. Yn aml gall y rhain ymddangos yn waith drud a chaled ac yn gryn dipyn o waith papur.
Ond mae’r dull hwn yn gadael busnesau bach a chanolig yn arbennig o agored i dwyll, gyda nifer o berchnogion a rheolwyr yn anymwybodol o'r risgiau y mae eu busnesau yn eu hwynebu.
Mae’n bwysig cydnabod y gall twyll ddod o unrhyw le, gan gynnwys:
O’r cychwyn, gall twyll ymddangos yn gymhleth ac anodd i’w ddeall, gan fod troseddwyr yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau a thechnegau.
Ni allwn ddarparu un ateb i atal pob achos o dwyll busnes, ond bydd y wybodaeth isod yn eich helpu i adnabod y mathau mwyaf cyffredin ac i gymryd camau i’ch diogelu chi, eich staff a’ch busnes.
Cofiwch y deg awgrym syml hyn i leihau’r risg o dwyll busnes ac i gadw eich busnes a’ch staff yn ddiogel.
Os yw’n swnio’n rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod. Cwestiynwch y canlynol yn drylwyr:
Dylech gael dealltwriaeth drylwyr o’ch busnes er mwyn i chi wybod:
Bydd hyn yn eich helpu i sylweddoli ar unwaith pan nad yw rhywbeth yn iawn.
Pan fyddwch chi'n deall gyda phwy rydych chi'n gwneud busnes â nhw, byddwch yn sylwi ar unrhyw gais neu drafodiad busnes sy'n edrych yn anghywir i'r cwsmer neu'r cyflenwr hwnnw ac a allai fod yn dwyllodrus.
Dylech gynnal diwydrwydd dyladwy gan ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar risg, fel gwirio manylion y cwsmer neu'r cyflenwr sydd gennych ar ffeil, yn ogystal â chwiliadau ar-lein.
Dychmygwch sut gallai twyllwr dargedu eich busnes, yn fewnol ac allanol, a phrofwch y systemau rydych chi’n eu defnyddio’n barod i leihau risg. Sicrhewch eich bod chi a’ch staff yn adnabod y systemau hynny ac yn eu hadolygu’n gyson.
Meddyliwch am y strategaeth gywir ar gyfer atal a chanfod twyll: dylai gynnwys manylion am ddulliau rheoli a gweithdrefnau.
Mae staff yn edrych at berchnogion a rheolwyr am arweiniad i ymddygiad derbyniol. Siaradwch am dwyll gyda’ch staff, cyflenwyr a chysylltiadau eraill. Mae angen i'ch staff ddeall y risgiau a sut mae colledion yn effeithio ar y busnes ac arnyn nhw eu hunain.
Gyda bygythiadau cynyddol o seiberdroseddu, dylech ddiogelu systemau technoleg eich busnes rhag ymosodiadau. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwneud copi wrth gefn o'ch systemau rhag ofn i rywbeth fynd o’i le.
Dylech ddeall sut mae arian yn gadael y cwmni, gan gynnwys:
Dylech wastad fwrw golwg ar eich cyfriflenni banc.
Mae hyn yn cynnwys gliniaduron, cyfrifiaduron, ffonau clyfar ac eiddo deallusol. Dylech gynnwys yswiriant busnes i gwmpasu'r eitemau hyn os ydyn nhw dan fygythiad neu wedi'u dwyn. Dylech ddefnyddio a chynnal rhestr eiddo.
Ystyriwch pryd y gallai fod angen cyngor proffesiynol neu gyfreithiol arnoch chi. Er bod atal yn well na gwella, mae'n bwysig eich bod chi a'ch busnes yn barod am y gwaethaf. Bydd cael cynllun gweithredu ar waith yn helpu i gyfyngu'ch colledion i dwyll.
Action Fraud yw canolfan genedlaethol y DU ar gyfer adrodd twyll a seiberdroseddu. Gallwch hefyd gael gwybodaeth am dwyll a throseddu ar y we sydd wedi’u cymell gan arian.
Gallwch hefyd riportio twyll i’r heddlu os ydych chi'n adnabod y person o dan amheuaeth neu os ydyn nhw dal yn yr ardal. Ffoniwch 0800 40 50 40 i siarad ag un o’n gweithredwyr.