Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
DIWEDDARIAD am 20.25: Credir bod ail berson a fu farw yn anffodus yn archwiliwr tocynnau ar y trên. Nid yw adnabod ffurfiol wedi digwydd eto, ond mae eu teulu wedi'u hysbysu a maent yn cael eu cefnogi gan swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig.
Cafodd Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) eu galw i’r llinell yn Stonehaven, Swydd Aberdeen am 09.43am y bore 'ma (12 Awst) yn dilyn adroddiad bod trên a oedd yn teithio o Aberdeen i Glasgow Queen Street wedi dod oddi ar y cledrau.
Mae swyddogion yn dal i fod yn y lleoliad y prynhawn 'ma ochr yn ochr â'r gwasanaeth ambiwlans, y frigâd dân a chydweithwyr o Heddlu'r Alban.
Yn drist iawn, er gwaethaf ymdrechion gorau parafeddygon, gallwn ni gadarnhau y datganwyd bod tri o bobl wedi marw yn y lleoliad.
Er nad yw adnabod ffurfiol wedi digwydd eto, credir yn drist iawn bod gyrrwr y trên wedi marw. Mae ei deulu wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion cyswllt teulu sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig.
Mae swyddogion yn parhau i weithio i hysbysu teuluoedd y ddau berson arall a fu farw yn drist. Gall unrhyw un sy'n poeni am ffrindiau neu deulu gysylltu â'n rhif swyddfa damweiniau ar 0141 775 5122.
Aethpwyd â chwech o bobl i’r ysbyty i gael triniaeth am anafiadau, na chredir eu bod yn ddifrifol diolch byth.
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Eddie Wylie:“Mae hwn yn ddigwyddiad trasig ac yn anad dim mae ein meddyliau gyda theuluoedd a ffrindiau’r rhai sydd wedi marw’n drist iawn y bore 'ma.
“Rydym yn aros yn y lleoliad ochr yn ochr â’n cydweithwyr yn y gwasanaeth brys, ac mae ymgyrch digwyddiad mawr wedi bod ar y gweill. Hoffwn roi sicrwydd i'r cyhoedd nad oedd hwn yn wasanaeth prysur, ac o ymholiadau teledu cylch cyfyng a datganiadau tyst credwn y cyfrifwyd am bob teithiwr. Fodd bynnag, unwaith y bydd yr ardal wedi'i gwneud yn ddiogel yna cynhelir chwiliad llawn a thrylwyr, sy'n debygol o gymryd cryn amser.
“Rwyf yn gwybod ac yn deall y bydd gan lawer o bobl gwestiynau, a bydd yr ymchwiliad yn cael ei gyfarwyddo gan y COPFS. Byddwn yn gweithio'n agos gyda nhw, ochr yn ochr â'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffyrdd a'r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd i sefydlu'r amgylchiadau llawn ynghylch sut y daeth y trên oddi ar y cledrau."