Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:46 05/01/2021
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig wedi rhyddhau delweddau teledu cylch cyfyng o chwe unigolyn y credant y gallant eu cynorthwyo â’u hymholiadau mewn perthynas ag ymosodiad a ddigwyddodd yng ngorsaf drenau Dalmuir ar ddydd Llun, 12 Hydref 2020, rhwng 8.45pm ac 8.50pm.
O ganlyniad i'r digwyddiad, dioddefodd bachgen yn ei arddegau a'i chwaer anafiadau.
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth ynghylch yr ymosodiad ac wedi rhyddhau disgrifiadau o'r unigolion y maent yn credu sydd â gwybodaeth a all helpu â'u hymchwiliad.
Mae'r fenyw gyntaf rhwng 14-17 oed â gwallt syth hir tywyll/du. Roedd hi'n gwisgo siaced gwta aur/hufen, cap pêl fas du â logo gwyn North Face, jîns du wedi'u rhwygo a threinyrs du yn arddull Converse â bysedd traed a gwadn gwyn.
Mae'r ail fenyw rhwng 14 a 17 oed, â chorffolaeth fain ac â gwallt syth penfelen brown/budr. Roedd hi'n gwisgo siaced ddu â chwfl wedi'i leinio â ffwr du a threinyrs du ar arddull Converse â bysedd traed a gwadn gwyn. Roedd hi'n cario bag llaw mawr du hefyd.
Mae'r drydedd fenyw rhwng 14 a 17 oed â gwallt hir tywyll. Roedd hi'n gwisgo siaced gwiltiog wen a throwsus du â ffit denau. Roedd hi'n cario bag llaw bach tywyll â strap hir.
Mae'r gwryw cyntaf rhwng 14 ac 17 oed. Roedd yn gwisgo trowsus tracwisg tywyll, treinyrs gwyn a thop cwfl du gwyn/golau llwyd â'r cwfl wedi'i wisgo i fyny drwy'r amser.
Mae'r ail wryw rhwng 14 a 17 oed â gwallt tywyll byr. Roedd yn gwisgo siaced â chwfl du, trowsus du ac esgidiau du.
Mae’r trydydd gwryw rhwng 16 a 18 oed, â chorffolaeth fawr, oddeutu 6 troedfedd ac roedd ganddo wallt tywyll â phigyn gweddw amlwg. Roedd yn gwisgo top tracwisg â hanner isaf du, hanner uchaf llwyd, cwfl â llinellau gwyn trwchus, marciau ar ochr y llewys a logo gwyn bach i un ochr i ardal y frest. Roedd hefyd yn gwisgo trowsus tracwisg du a threinyrs gwyn.
Gellir cysylltu â Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig trwy anfon neges destun at 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2000070822 a 2000070819.
Hefyd gellir rhoi gwybodaeth yn ddienw i'r elusen annibynnol Crime Stoppers ar 0800 555 111.