Stamp amser presennol: 18/08/22 02:13:48
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCauCysyltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleolUchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainTwitterHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

btp-header-logo-bilingual

Chwilio’r wefan hon

Prif ddewislen llywio

  • Riportio

    Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Person sydd ar goll
    • Twyll
    • Anghydfodau sifil
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
  • Rhoi gwybod i ni

    Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Tell us about possible terrorist activity
    • Ffilmio
  • Gwneud cais neu gofrestru

    Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
  • Cais

    Yn ôl i Cais

    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Diolchiadau a chwynion

    Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Gwneud cwyn
    • Diolch
    • Adborth am y wefan
  • Timau lleol

    Yn ôl i Timau lleol

    • De-orllewin Lloegr
    • Cymru
    • Canolbarth Lloegr
    • Pennines
    • Llundain
    • De Lloegr
    • Yr Alban

Briwsion bara

  1. ...
  2. Newyddion

Annog teithwyr ar draws yr Alban i deithio'n ddiogel y tymor Nadolig hwn

Cynnwys y prif erthygl

Llywio

Yr Alban

12:13 02/12/2021

Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) a Transport Scotland yn lansio ymgyrch ar y cyd y Nadolig hwn a fydd yn cynnwys mwy o swyddogion ar y rhwydwaith i sicrhau bod pawb yn mwynhau tymor yr ŵyl yn ddiogel.

Mae BTP am i bawb gael hwyl yn ystod yr ŵyl a bydd ar batrôl i ymgysylltu â'r cyhoedd i godi ymwybyddiaeth o riportio troseddau ar y rhwydwaith rheilffyrdd gan ddefnyddio'r rhif testun 61016.

Bydd y patrolau'n canolbwyntio'n bennaf ar orsafoedd rheilffordd Glasgow Central, Glasgow Queen Street, ac Edinburgh Waverley, er y bydd mwy o bresenoldeb ar draws y rhwydwaith drwy gydol y mis.

Gyda phwyslais ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn drwy gydol mis Rhagfyr, bydd y gwaith yn gweld cynnydd mewn patrolau amlygrwydd uchel ar drenau ac mewn gorsafoedd sy'n ymroddedig i gadw'r cyhoedd yn ddiogel. Bydd y patrolau ar waith i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, aflonyddu rhywiol a chynyddu ymwybyddiaeth o rif testun 61016 ar gyfer riportio troseddau ar y rhwydwaith rheilffyrdd.

Mae BTP hefyd yn atgoffa'r cyhoedd i fod yn barchus i staff y rheilffyrdd ac i barhau i ddilyn y rheoliadau iechyd wrth deithio ar y rhwydwaith drwy wisgo gorchudd wyneb wrth deithio oni bai eich bod wedi'ch eithrio.

Nod y gwaith yw atal troseddu a sicrhau bod y rheilffordd yn parhau i fod yn lle diogel i deithio, yn ogystal â rhoi sicrwydd a chyngor ynghylch diogelwch personol i deithwyr.

Dywedodd yr Uwcharolygydd David Marshall, Pennaeth Gweithrediadau yr Alban: "Rydym am sicrhau bod pawb yn mwynhau tymor yr ŵyl gyda ffrindiau a theulu. Byddwn yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid i sicrhau bod pawb yn gwneud hynny'n ddiogel.

"Bydd ein swyddogion yn parhau i batrolio'r rhwydwaith rheilffyrdd a byddant yn atgoffa teithwyr o'n rhif testun 61016 am riportio troseddau ar y rhwydwaith rheilffyrdd. Cadwch y rhif ar eich ffôn. Os oes ein hangen arnoch, tecstwch y rhif.

"Er gwaethaf mwy o heddweision ar y rhwydwaith rheilffyrdd, staff y rheilffyrdd ac aelodau'r cyhoedd yw ein llygaid a'n clustiau ac yn rhan bwysig o'r teulu rheilffordd.

"Mae gan deithwyr rhan hanfodol i'w chwarae wrth helpu i wneud y rhwydwaith rheilffyrdd yn ddiogel i bawb, drwy riportio unrhyw beth nad yw'n teimlo'n iawn - er enghraifft eitem wedi'i gadael, rhywun sy'n ymddwyn yn amheus neu'n amhriodol, neu'n edrych yn ofidus, ar goll neu'n agored i niwed.

"Drwy gydweithio, gallwn sicrhau bod pawb yn mwynhau'r nadolig hwn yn ddiogel."

Dywedodd Graeme Dey, y Gweinidog Trafnidiaeth: "Mae sarhau gweithwyr rheilffordd a theithwyr eraill yn gwbl annerbyniol; ni fydd trais a sarhau yn cael eu goddef. Mae gan yr ymgyrch hon fy chefnogaeth lawn gan fod gan y rhai sy'n gweithio ar ein trafnidiaeth gyhoeddus hawl ddiamheuol i fynd o gwmpas eu busnes heb fod yn destun ymosodiad geiriol neu gorfforol.

"Mae Llywodraeth yr Alban yn sefyll yn gadarn wrth ochr ein darparwyr trafnidiaeth a'n hundebau llafur wrth godi llais ar y mater hwn. Mae'n gwbl glir y dylai'r cyhoedd nid yn unig roi eu cefnogaeth hefyd, drwy ymatal rhag ymddygiad diangen, ond hefyd ei riportio lle maent yn gweld digwyddiadau neu ymddygiad amheus yn digwydd."

Meddai John McBrinn, Rheolwr Gweithrediadau Cwsmeriaid ScotRail: "Mae'n bwysig bod pobl yn mwynhau'r ŵyl, ond mae hefyd yn bwysig bod pawb – cwsmeriaid a'n staff – yn gallu cwblhau eu teithiau'n ddiogel ac yn heddychlon.

"Byddwn yn cynorthwyo Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig mewn unrhyw ffordd y gallwn i helpu i fynd i'r afael ag unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol ar drenau ac o amgylch gorsafoedd dros yr ŵyl, a byddem yn annog unrhyw un sydd â phryderon diogelwch i gysylltu â BTP gan ddefnyddio eu gwasanaeth testun cynnil, neu ffonio 999 mewn argyfwng."

Dywedodd datganiad ar y cyd gan ASLEF, TSSA, Unite ac RMT "Rydym am i bawb fwynhau eu hunain a theithio ar y trên i gyrraedd adref yn ddiogel ond rydym yn gofyn i bob teithiwr barchu cyd-deithwyr ac yn enwedig staff y rheilffyrdd nid yn unig yn ystod yr ŵyl ond drwy gydol y flwyddyn."

Mae gan BTP amrywiaeth o dactegau i atal a chanfod troseddau, gan gynnwys ein rhwydwaith o heddlu mewn iwnifform, swyddogion dillad plaen a 150,000 o gamerâu teledu cylch cyfyng.

Os gwelwch unrhyw beth nad yw'n teimlo'n iawn, riportiwch ef i ni ar 61016, anfonwch y manylion atom drwy ein teclyn riportio ar-lein neu ffoniwch 0800 40 50 40 ar unrhyw adeg. Os ydych chi neu rywun arall mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999 bob amser.

 

 

 

Rhannu

A oes rhywbeth o'i le ar y dudalen hon?

Llywio troedyn

Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i roi profiad gwell, mwy personol i chi.

Rwy'n iawn gyda chwcis Rwyf am olygu'r cwcis

Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Hygyrchedd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyrchu gwybodaeth
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais

Partneriaid

  • Awdurdod Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2021. Cedwir pob hawl.