Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:23 16/09/2020
Mae dyn wedi’i ddedfrydu am ymosodiad difrifol ar deithiwr a geisiodd ei atal rhag cam-drin yn hiliol ddynes ar drên yn Glasgow.
Cafodd Scott Ramsey, 31, ei ddedfrydu i dair blynedd ac 8 mis o garchar a'i wneud yn destun gorchymyn goruchwylio 12 mis ar ôl pledio'n euog i ymosodiad i anaf difrifol a nam parhaol ac aflonyddu gwaethygedig ar sail hil yn Llys Sirol Glasgow.
Clywodd y llys fod Ramsey wedi gwneud sylw sarhaus hiliol i ddynes 29 oed wrth iddi fynd ar drên yn Partick ym mis Mai y llynedd.
Parhaodd Ramsey i wneud sylwadau a bygythiadau hiliol i’r ddynes nes i deithiwr arall, dyn 50 oed, ymyrryd gan ddweud wrtho am stopio.
Cyfnewidiodd y ddau ddyn eiriau a tharodd Ramsey y dyn mewn symudiad dyrnu gyda photel yr oedd wedi bod yn yfed ohoni. Fe wnaeth y botel daro ceg ac ên y dyn gan achosi iddo faglu tuag yn ôl.
Yna ceisiodd Ramsey adael y cerbyd ac fe wnaeth y pâr ymgodymu cyn mynd allan i blatfform y trên lle gwnaeth aelodau'r cyhoedd eu gwahanu.
Cafodd y dyn 50 oed ddifrod deintyddol sylweddol.
Dywedodd Ditectif Gwnstabl Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, Neil Adams: “Ni fydd ymddygiad hiliol a threisgar iawn yn cael ei oddef ar reilffyrdd yr Alban.
“Rwyf yn falch bod rhywfaint o gyfiawnder i’r dioddefwyr a bod yr unigolyn peryglus hwn wedi’i dynnu oddi ar y strydoedd.”
DIWEDD
Fe wnaeth Scott Hugh Ramsey (27/03/1989) bledio’n euog i ddau gyhuddiad ar ddydd Gwener 21 Awst yn Llys Sirol Glasgow
1 - YMOSODIAD I ANAF DIFRIFOL A NAM PARHAOL
2 - S50A(1)(B)a(5) o DDEDDF CYFRAITH DROSEDDOL (CYDGRYNHOI) (YR ALBAN) 1995
Ar 15 Medi dedfrydwyd Ramsey i gyfanswm o dair blynedd ac 8 mis a chafodd ei wneud yn destun gorchymyn rhyddhau dan oruchwyliaeth 12 mis a fydd yn cychwyn ar ôl ei ryddhau o'r ddalfa