Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:54 23/06/2021
Mae dyn a ddygodd werth dros £4,520 o offer rheilffordd ac eiddo personol ac a achosodd werth £4,635 o ddifrod i eiddo mewn Depo Motherwell wedi'i garcharu am 21 mis.
Ymddangosodd Joseph Guiheen, 44, o ddim cyfeiriad sefydlog, yn Llys Sirol Hamilton ar ddydd Gwener 18 Mehefin lle plediodd yn euog i dri chyfrif o ladrad drwy dorri i mewn i dŷ.
Clywodd y llys sut y gwnaeth y tair lladrad ar y 13 a'r 24fed Rhagfyr 2020 a'r 15fed Ionawr 2021 a oedd yn dod i gyfanswm o £4,520. Achosodd werth £4,635 o ddifrod hefyd.
Roedd yr eitemau a gafodd eu dwyn yn cynnwys tri i-Phone, un tortsh Samalite Network Rail, 2 gliniadur HP, a blwch elusen ynghyd ag offer arall y rheilffordd. Cafodd bag aelod o staff ar ddyletswydd ei ddwyn hefyd a oedd yn cynnwys dillad drud, clustffonau a hufen ôl-eillio a oedd yn werth dros £200.
Cafodd ei arestio a'i gyhuddo gan swyddogion ar 17 Ionawr 2021.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Thomas Gallagher: "Roedd hwn yn ladrad penderfynol a haerllug a allai fod wedi costio dros £9,000 mewn colled i'r rheilffordd.
"Mae'r ddedfryd hon yn dangos pa mor ddifrifol y mae'r llysoedd yn cymryd y digwyddiadau hyn, ac rwy'n siŵr y bydd y ddedfryd hon o garchar yn rhoi digon o amser i'r unigolyn fyfyrio ar ei weithredoedd.
"Rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â phob math o ladrad a gweithio'n agos gyda Network Rail a phartneriaid eraill yn y diwydiant i wneud y rheilffordd yn lle anodd i'r troseddwyr hyn weithredu.
"Os ydych chi'n sylwi ar unrhyw weithgarwch amheus ar y rheilffordd, rhowch wybod i BTP drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40. Mewn argyfwng ffoniwch 999 bob amser."