Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:09 21/12/2020
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig wedi rhyddhau delweddau teledu cylch cyfyng o berson yr hoffent siarad ag ef mewn perthynas â digwyddiad yng Ngorsaf Reilffordd Bathgate.
Digwyddodd y digwyddiad ddydd Mercher 18Tachwedd 2020, rhwng 1.30pm a 2.05pm.
Mae swyddogion yn credu y gallai fod gan y dyn a ddangosir yn y delweddau wybodaeth a all eu cynorthwyo â’u hymchwiliad a byddent yn annog y dyn a ddangosir neu unrhyw aelodau o’r cyhoedd sy’n ei adnabod i gysylltu â’r heddlu.
Fe’i disgrifir fel dyn, gwyn, 5 troedfedd 10 - 5 troedfedd 11, rhwng 28-34 oed, cap pêl fas du, siaced ddu, jîns glas denim, mwgwd wyneb glas, corffolaeth ganolig ac mae ganddo acen Albanaidd leol.
Gellir cysylltu â Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig trwy anfon neges destun at 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2000091651.
Gellir hefyd rhoi gwybodaeth yn ddienw i'r elusen annibynnol Crimestoppers ar 0800 555 111.