Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:00 13/04/2021
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) wedi atafaelu cyffuriau gwerth £4,500 o Orsaf Glasgow Queen Street ar ddydd Llun.
Arestiwyd dyn 47 oed fore ddoe mewn cysylltiad ag ymwneud â chyflenwi cyffur rheoledig yng ngorsaf Glasgow Queen Street ar 12fed Ebrill. Disgwylir iddo ymddangos yn Llys Sirol Glasgow heddiw.
Dywedodd Ditectif Ringyll BTP David Ferguson “Mae'r canlyniad hwn yn dangos sut rydym wedi bod yn gweithio i leihau cyflenwi a meddu ar gyffuriau ar y rhwydwaith rheilffyrdd. Rydym wedi ymrwymo i darfu ar y gweithgarwch hwn sy'n cael effaith negyddol ar gymunedau ledled yr Alban.
“Mae teithwyr yn parhau i fod yn llygaid a chlustiau i ni a gallant ein helpu trwy riportio troseddau a phryderon trwy decstio 61016 neu 0800 40 50 40.Fel arall, gallant gysylltu â Crimestoppers ar 0800 555 111.”