Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:09 09/10/2020
Mae swyddogion Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) wedi atafaelu gwerth £4,000 o gyffuriau yng Nghaeredin Waverley yr wythnos hon fel rhan o ymgyrch Llinellau Cyffuriau i fynd i’r afael â smyglo cyffuriau.
Cymerodd swyddogion BTP, gyda chŵn cyffuriau arbenigol, ran mewn ymgyrch wedi'i thargedu yng ngorsaf Caeredin Waverley fel rhan o Dasglu Llinellau Cyffuriau BTP i fynd i'r afael â chyffuriau ar y rhwydwaith rheilffyrdd, ac i amddiffyn plant ac oedolion agored i niwed sy'n aml yn cael eu hecsbloetio gan gangiau i werthu neu symud cyffuriau.
Fe wnaeth y swyddogion, yr ymunodd Heddlu'r Alban â nhw hefyd, sawl arestiad am droseddau cyffuriau - roedd un ohonynt yn cynnwys gwerth £4,000 o grac cocên. Mae’r llanc 19 oed wedi’i arestio am fod â chyffur dosbarth A yn ei feddiant â’r bwriad o gyflenwi. Anfonir adroddiad at y Procuradur Ffisgal a bydd yn ymddangos yn y llys yn ddiweddarach.
Roedd arestiadau eraill yn cynnwys bod ag arf sarhaus yn ei feddiant pan ganfuwyd bod llanc 16 oed yn cario arf dwrn. Yn ystod yr ymgyrch arbennig fe wnaethant hefyd ddiogelu tri pherson rhag camfanteisio troseddol.
Mae BTP wedi bod yn cyflawni ymgyrchoedd Llinellau Cyffuriau ledled yr Alban, Cymru a Lloegr ers iddo sicrhau cyllid y Swyddfa Gartref ar gyfer Tasglu ym mis Rhagfyr 2019.
Dywedodd Rhingyll BTP, Pete Wilcock:“Mae'r Tasglu'n parhau i fod yn weithgar iawn ac yn parhau i fynd i'r afael â throseddau treisgar a masnachu cyffuriau ar y rhwydwaith rheilffyrdd. Ein blaenoriaeth bob amser yw amddiffyn pobl agored i niwed rhag camfanteisio troseddol ac yn ystod yr ymgyrch hon roeddem yn gallu rhoi hyn ar waith gyda thri unigolyn.
"Rydym wedi bod yn cyflawni ymgyrchoedd llwyddiannus yn yr Alban trwy weithio mewn partneriaeth â Heddlu'r Alban ac asiantaethau gorfodi'r gyfraith eraill at bwrpas cyffredin i amddiffyn plant ac oedolion sy'n agored i niwed rhag cael eu hecsbloetio. Bydd y bartneriaeth barhaus hon yn sicrhau y gallwn ddiogelu unrhyw berson bregus neu sy'n cael ei ecsbloetio a lleihau troseddu ar y rheilffordd.”
"Mae ymdrechion sylweddol fy nhîm yn cyfrannu at ein nod cenedlaethol o sicrhau bod y rheilffordd yn parhau i fod yn ffordd ddiogel iawn o deithio.”
Yn ystod ymgyrchoedd ledled y DU mae swyddogion BTP yn blaenoriaethu diogelu unrhyw berson bregus neu sydd wedi'i ecsbloetil a arestiwyd fel rhan o Linellau Cyffuriau, gan eu hatgyfeirio i wasanaethau a grëwyd i annog a chefnogi'r unigolyn i ffwrdd o weithgarwch troseddol peryglus.
Ers i'r Tasglu gychwyn mae cyfanswm o 33 o blant yn y DU wedi cael eu hatgyfeirio i'r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol i'w diogelu hyd yma. Yn ogystal, bu bron i 600 o arestiadau hyd yma, roedd 288 o atafaeliadau o gyffuriau, atafaelwyd 110 o arfau ac atafaelwyd £220,000 mewn arian parod.
Yng Nghaeredin mae swyddogion BTP wedi gwneud pedwar atafaeliad gwerth cyfanswm o dros £40,000 ers mis Mehefin eleni
Ychwanegodd arweinydd y tasglu, y Ditectif Uwcharolygydd Gareth Williams:
“Mae ein Tasglu mewn sefyllfa unigryw, rydym yn gweithredu’n genedlaethol ac yn targedu gweithgarwch Llinellau Cyffuriau ar draws y rhwydwaith reilffyrdd.
“Mae ein profiad wedi profi bod gangiau sy’n defnyddio’r rhwydwaith reilffyrdd yn dibynnu ar bobl iau i symud cyffuriau. Mae'r unigolion hyn yn ddioddefwyr, yn cael eu gorfodi trwy ecsbloetio neu ddychryn i sefyllfaoedd enbyd, a'n blaenoriaeth bob amser yw sicrhau bod cefnogaeth ar gael a all eu cael allan o niwed ac i ffwrdd o droseddu.
“Ers mis Rhagfyr, rydym wedi bod yn cynnal ymgyrchoedd yn ddyddiol, bob amser yn seiliedig ar ddatblygu cudd-wybodaeth sy’n dangos lle mae gangiau’n gweithredu. Rydym yn cael rhan o'n gwybodaeth trwy weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau gorfodi'r gyfraith eraill, ond hefyd yn bwysig trwy gefnogaeth y diwydiant rheilffyrdd sy'n hyfforddi eu staff i nodi arwyddion o ecsbloetio.
“Ymhlith y dangosyddion allweddol mae merch yn ei harddegau yn teithio pellteroedd maith, ar ei phen ei hun â swm mawr o arian parod, neu'n osgoi unrhyw fath o awdurdod mewn gorsafoedd. Mae'r dangosyddion hyn yn fach ond yn amhrisiadwy ac yn helpu i lywio ble rydym yn targedu nesaf. Mae hon yn ddealltwriaeth esblygol o droseddu ym maes Llinellau Cyffuriau ac rydym yn barod i fynd i’r afael â hi, lle bynnag y mae’r wybodaeth yn ein harwain.”
Mae BTP wedi partneru ag ymgyrch ymwybyddiaeth #LookCloser Cymdeithas y Plant i annog gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd i ‘Edrych yn Agosach’ am arwyddion y gallai plentyn fod mewn perygl o gael ei ecsbloetio'n droseddol.
Gall pobl riportio unrhyw bryderon i'r heddlu ar 101. Os ydyn nhw ar drên gallant anfon neges destun at Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ar 61016. Ond dylent ddeialu 999 os oes risg uniongyrchol i blentyn.