Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) yn annog rhieni a gofalwyr yn yr Alban i wirio eu plant ar ôl i grwpiau o bobl ifanc deithio ar draws y rhwydwaith er bod y wlad mewn cyfnod cloi cenedlaethol.
Mae BTP wedi bod yn pryderu am ddiogelwch a lles plant sy'n teithio ar eu pennau eu hunain ar y rhwydwaith y tu allan i reoliadau Covid ac mae wedi bod yn cynnal ymgyrchoedd wythnosol ers mis Ionawr i adnabod ac amddiffyn y plant hyn.
Yn ystod y cyfnod hwn mae 24 o ymgyrchoedd wedi'u targedu wedi nodi dros 40 o bobl ifanc a oedd naill ai wedi'u casglu neu eu dychwelyd adref wedyn at eu rhieni a'u gofalwyr.
Mewn rhai achosion, roedd plant mor ifanc â deuddeg oed yn teithio o Helensburgh i Partick a nodwyd bod eraill wedi teithio o Dalmuir i Airdrie.
Dywedodd yr Arolygydd BTP, Chris Shields: “Rydym yn annog rhieni a gofalwyr i sicrhau eu bod yn gwybod ble mae eu plant a chael sgyrsiau gyda nhw i'w hatgoffa o'r canllawiau Covid sydd ar waith ar hyn o bryd.
“Un o’r agweddau mwyaf pryderus o’n hymgyrchoedd fu nifer y bobl ifanc y gwnaethom siarad â nhw a oedd yr ochr arall i’r ddinas o ble maent yn byw heb gydsyniad neu wybodaeth rhieni.
“Nid yw’r rheilffordd yn faes chwarae ac mae grwpiau mawr o bobl ifanc mor ifanc â 12 oed wedi arwain atfwy o batrolau i sicrhau bod diogelwch ar waith ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n teithio ar y rhwydwaith.
“Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i amddiffyn plant sy'n agored i niwed yn ein cymuned a byddwn i'n annog pobl i fod yn wyliadwrus am bobl ifanc a allai fod angen help a rhoi gwybod am unrhyw bryderon sydd ganddynt fel y gallwn ni sicrhau nad ydynt yn dod i unrhyw niwed.
Mae teithwyr yn parhau i fod yn llygaid a chlustiau i ni a gallant ein helpu trwy riportio troseddau a phryderon trwy decstio 61016. ”
Yn gynharach eleni, fe wnaeth BTP bartneru ag ymgyrch 'Gweld, Clywed ac Ymateb' Barnardo, sy'n ceisio darparu mynediad at gymorth uniongyrchol i blant a'u teuluoedd a allai fod yn cael trafferth â chanlyniadau COVID-19 a phroblemau ehangach.