Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:55 17/12/2020
Cymerodd swyddogion BTP ran mewn ymgyrch wedi’i thargedu yng ngorsaf Waverley Caeredin yr wythnos diwethaf fel rhan o Dasglu Llinellau Cyffuriau BTP i fynd i’r afael â chyffuriau ar y rhwydwaith rheilffyrdd.
Fe wnaeth y swyddogion, yr ymunwyd â nhw gan Heddlu’r Alban hefyd, atafaelu'r cyffuriau ar ddydd Mercher 9 Rhagfyr pan arestiwyd dau ddyn 40 a 46 oed am ymwneud â chyflenwi cyffur a reolir yn Waverley Caeredin. Yn dilyn chwiliad, daethpwyd o hyd i Ganabis â gwerth stryd amcangyfrifedig o oddeutu £30,000. Cafodd y ddau ddyn eu dal yn y ddalfa ac ymddangoson nhw yn Llys Sirol Caeredin ddydd Iau diwethaf.
Dywedodd Rhingyll y BTP David Ferguson:“Rydym wedi bod yn cyflawni ymgyrchoedd llwyddiannus yn yr Alban trwy weithio mewn partneriaeth â Heddlu’r Alban i sicrhau bod y rheilffordd yn parhau i fod yn ffordd ddiogel iawn o deithio. Mae'r canlyniad hwn yn dangos sut rydym wedi bod yn gweithio i leihau cyflenwad a meddiant cyffuriau ar y rhwydwaith rheilffyrdd.”