Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:54 29/03/2021
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) yn annog rhieni a gofalwyr i rybuddio plant a phobl ifanc am beryglon tresmasu ar ôl sawl digwyddiad yn yr Alban.
Mae'r digwyddiadau'n cynnwys plantyn chwarae ar y rheilffordd ger Port Elphinstone, Inverurie a Boat of Kintore yng Ngogledd Swydd Aberdeen, acmaent wedi ysgogi BTP i atgyfnerthu ymwybyddiaeth ynghylch peryglon y rheilffordd.
Dywedodd Arolygydd BTP, Bryan O’Neill: “Mae’r rheilffordd yn llawn peryglon cudd. Gormod o weithiau rydym wedi gweld canlyniadau trasig pobl ifanc yn anwybyddu'r rhybuddion am dresmasu ar y rheilffordd ac yn cymryd risgiau sydd wedi arwain at anafiadau neu farwolaeth ofnadwy, felly mae'n hanfodol bod rhieni'n chwarae eu rhan ac yn sicrhau eu bod yn gwybod ble mae eu plant a beth maen nhw'n ei wneud.
Mae teithwyr yn parhau i fod yn llygaid a chlustiau i ni a gallant ein helpu trwy riportio troseddau a phryderon trwy decstio 61016.”
Dywedodd Mark Henderson, uwch reolwr ymgysylltu â’r gymuned Network Rail: “Gall tresmasu ar y rheilffordd arwain at anafiadau sy’n newid bywyd neu hyd yn oed anafiadau angheuol. Rydym yn gweithio’n agos gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig i addysgu pobl ifanc am y peryglon ar y rheilffordd a byddem yn annog y cyhoedd i gadw ymhell oddi ar y cledrau.”
Mae BTP a Network Rail yn cynnal ymgyrch ddiogelwch drawiadol, You Vs Train, sy'n amlygu'r canlyniadau dinistriol y gall tresmasu ar y rheilffordd eu cael. Gallwch ddysgu rhagor yn youvstrain.co.uk