Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:02 23/07/2021
Yn dilyn cynnydd mewn digwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol gan bobl ifanc yn Balloch ac Ayrshire, Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) yn cynyddu patrolau gan ddefnyddio ymgyrchoedd wedi'u targedu.
Ers mis Ebrill eleni, mae BTP wedi delio â 36 o ddigwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Balloch. Yn ystod yr un cyfnod mae BTP wedi delio â 104 o ddigwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Ayrshire.
Mae'r patrolau yn Balloch a gorsafoedd eraill ar hyd y llinell yn rhan o'r CynllunHaf Diogel sy'n cynnwys swyddogion BTP, Police Scotland, Scotrail ac awdurdodau lleol yn cydweithio i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau eu dyddiau allan yn ddiogel.
Dywedodd Arolygydd BTP Alasdair McWhirter: "Drwy weithio mewn partneriaeth â Police Scotland a ScotRail rydym yn gweithio'n ddiflino i atal troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar y rhwydwaith rheilffyrdd, ac rydym yn cynyddu ein patrolau yng Ngorllewin Dunbartonshire ac Ayrshire gan ddefnyddio ymgyrchoedd wedi'u targedu. Wrth i nifer y teithwyr ar y rheilffordd gynyddu wrth i gyfyngiadau Covid godi, bydd gennym fwy o swyddogion ar lwybrau a gorsafoedd allweddol ar draws y rhwydwaith, gan gynnwys Balloch a gorsafoedd yn Ayrshire, i sicrhau diogelwch pawb sy'n ei ddefnyddio.
"Rydyn ni am i bobl ofalu amdanynt eu hunain yr haf hwn a mwynhau eu hunain, ac rydyn ni'n gofyn i bawb fod yn synhwyrol ac yn ystyriol o deithwyr eraill. Os cawn ein galw allan i ddigwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol byddwn yn gweithredu gan fod angen i'r rheilffordd fod yn lle diogel i bawb sy'n defnyddio'r rhwydwaith.
"Mae dod yn ddioddefwr trosedd yn parhau i fod yn isel iawn yn yr ardal ac mae'r rhan fwyaf o'r bobl sy'n defnyddio'r rheilffordd yn y lleoedd hyn wedi bod yn mwynhau'r tywydd da yn gyfrifol.
"Teithwyr yw ein llygaid a'n clustiau o hyd a gallant ein helpu drwy riportio troseddau a phryderon drwy decstio 61016."