Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:13 31/03/2021
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn annog pobl ifanc yn ardal Barnsley i feddwl am ganlyniadau loetran o amgylch cledrau rheilffordd ar ôl cynnydd mewn digwyddiadau tresmasu.
Mae swyddogion yn cynyddu patrolau yn yr ardal ond maent yn ofni mai dim ond mater o amser y gallai fod cyn i rywun gael ei frifo'n ddifrifol neu'n waeth.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Alison Evans o Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig: “Gall tresmasu ar y rheilffordd arwain at ganlyniadau difrifol a all newid bywyd i’r unigolyn, ei anwyliaid a’r gymuned ehangach. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod y pethau sylfaenol ynghylch diogelwch rheilffordd ac yn trosglwyddo'r wybodaeth honno i'ch anwyliaid. Arweiniwch drwy esiampl a chadwch draw o'r cledrau.”
Ychwanegodd y Rhingyll Rob Pile: “Mae rhieni a gofalwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth atal trasiedi a achosir gan dresmasu trwy sicrhau eu bod yn gwybod ble mae eu plant a siarad â nhw am beryglon tresmasu. Felly, cynhaliwch y sgwrs honno gyda'r rhai yn eich gofal a'u hannog i gadw draw o'r cledrau."
Dywedodd Olly Glover, Pennaeth Diogelwch, Iechyd a’r Amgylchedd ar gyfer llwybr Gogledd a Dwyrain Network Rail: “Mae gwir angen rhieni yn Barnsley ac ar draws y rhanbarth i siarad â’u phlant a morthwylio adref y peryglon o fynd ar y cledrau.
“Rydyn ni'n gweld gormod o ddigwyddiadau lle mae'n ymddangos bod pobl yn hollol anghofus i'r peryglon maen nhw'n eu rhoi eu hunain ynddynt. Nid yw hi byth yn ddiogel i hongian o gwmpas ar y rheilffordd na'i ddefnyddio fel llwybr byr. Ni all trenau stopio’n gyflym na symyd allan o’r ffordd a gall y canlyniadau newid bywyd neu gall fod yn angheuol. ”
Cafodd yr ymgyrch You vs Train ei chreu yn haf 2018 gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a Network Rail.
Mae ffilm newydd - Parallel Lines - wedi cael ei lansio i gael plant a phobl ifanc i feddwl nid yn unig am y canlyniadau dinistriol y gall eu gweithredoedd eu cael arnyn nhw a'u hanwyliaid, ond y niwed ehangach, cudd weithiau a achosir i'r gymuned, yn benodol staff y rheilffordd.
Mae’r ffilm wedi’i ffrydio i ysgolion fel rhan o ddarllediad diogelwch y rheilffyrdd gan bartner addysg Network Rail - LearnLive. Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut i gofrestru ar gyfer y darllediad, ar gael ar learnliveuk.com
Gellir dod o hyd i wybodaeth am beryglon tresmasu ar y rheilffyrdd a ffilm newydd yr ymgyrch yn youvstrain.co.uk
Negeseuon pwysig i rieni a gofalwyr eu rhannu â phlant: