Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn cynnal ymgyrchoedd rhagweithiol ledled Llundain i atal troseddu a rhoi sicrwydd i deithwyr a staff am ddiogelwch y rheilffordd
Mewn gorsafoedd ar draws Bwrdeistrefi Islington, Haringey, Enfield a Waltham Forest yn Llundain, mae swyddogion yn defnyddio Ymgyrch Zerda i gadw dwynd, lladrad a throseddau treisgar eraill ar y rheilffordd i'r lefel leiaf.
Maent yn defnyddio cymysgedd o swyddogion mewn iwnifform a dillad plaen, cŵn a bwâu canfod metel, ac yn aml maent yn gweithio gyda'r Heddlu Metropolitanaidd a Transport for London (TfL).
Meddai'r Arolygydd Dan Rushall, comander gorsaf yr ardal: “Mae ymgyrchoedd wythnosol fel hyn yn ein cadw ar y droed flaen ac yn helpu i sicrhau bod troseddau'n cael eu cadw i'r lefel leiaf ar draws y rhwydwaith reilffyrdd.
“Pan fydd mesurau cloi yn cael eu llacio yn y pen draw a bydd miliynau bob blwyddyn yn dechrau defnyddio Finsbury Park a'r gorsafoedd cyfagos, bydd yr ymgyrchoedd hyn yn helpu i sicrhau ymhellach y gall teithwyr deithio'n ddiogel ac yn heddychlon.
“Maent hefyd yn hanfodol ar gyfer cefnogi ein cydweithwyr yn y diwydiant rheilffyrdd, gan sicrhau y gall staff rheng flaen weithio heb ymyrraeth, ond gan wybod pan fydd digwyddiadau'n digwydd, bydd swyddogion wrth law, yn barod i ymateb, ac yn gallu delio â throseddau'n gyflym."
Hanfod yr ymgyrch yw sicrwydd, gan ddangos i staff a'r cyhoedd y gwaith sydd yn ei le sy'n helpu i gadw'r rheilffordd yn ddiogel - mae swyddogion yn ymgysylltu â staff TfL fel mater o drefn i glywed a gweithredu ar faterion, tueddiadau a phryderon sy'n dod i'r amlwg.
Mae'r patrolau rhagweithiol hyn hefyd yn atal troseddu ac wedi arwain at ddal troseddwyr mae'r heddlu'n chwilio amdanynt am droseddau ar ac oddi ar y rheilffordd yn Llundain.
Ers dydd Gwener 15 Ionawr mae swyddogion wedi arestio 27 am ystod o droseddau, 10 ohonynt am ddwyn a lladrad.
Mae swyddogion hefyd wedi ymgysylltu â theithwyr, gan gynghori ar ddeddfwriaeth gyfredol Covid.