Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:02 19/02/2020
Mae mwy na 140 o bobl wedi’u harestio ers dechrau Tasglu Llinellau Cyffuriau a sefydlwyd gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ym mis Rhagfyr.
Mae mwy na 140 o bobl wedi’u harestio ers dechrau Tasglu Llinellau Cyffuriau a sefydlwyd gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ym mis Rhagfyr.
Ymhlith yr arestiadau diweddaraf mae dyn a stopiwyd yng ngorsaf Kings Cross yn Llundain lle atafaeloddodd swyddogion fwy na gwerth £3,000 mewn cocên heroin a chrac.
Y bore 'ma, dydd Mercher 19 Chwefror, gweithiodd y Tasglu gyda'r Heddlu Metropolitanaidd i weithredu gwarant mewn cartref yn Llundain, gan arestio un dyn ar amheuaeth o gyflenwi cyffuriau dosbarth A.
Sefydlwyd y Tasglu â chyllid y Swyddfa Gartref i fynd i’r afael â gangiau sy’n defnyddio’r rhwydwaith reilffyrdd i gludo cyffuriau ac arian parod o ddinasoedd i drefi gwledig, gan ddefnyddio plant ac oedolion sy'n agored i niwed yn aml i wneud hynny.
Mewn tri mis, mae swyddogion y Tasglu sy'n targedu gorsafoedd a llwybrau a ddefnyddir gan gangiau wedi atafaelu llawer iawn o gyffuriau, arfau a mwy na £26,000 mewn arian parod.
Ymhlith yr arfau a gymerwyd oddi ar y strydoedd mae seren ninja a llawddryll.
Mae'r Tasglu'n parhau i weithio gyda heddluoedd ledled y wlad, gan gynnal sawl ymgyrch yr wythnos mewn mannau problemus hysbys.
Yn gynharach y mis hwn, sicrhaodd BTP gyllid pellach gan y Swyddfa Gartref i ehangu'r Tasglu ac ymestyn ei waith trwy gydol y flwyddyn a 2021.
Dywedodd arweinydd y Tasglu, yr Uwch-arolygydd Gareth Williams: “Mae'r Tasglu'n parhau i fynd o nerth i nerth, gan sicrhau bod teithwyr yn teithio'n ddiogel a bod gangiau'n gwybod heb amheuaeth nad yw'r rhwydwaith rheilffyrdd yn lle i weithredu.
“Rydym yn gweithio’n agos iawn gyda heddluoedd ledled Cymru, Lloegr a’r Alban, gan gynnal sawl ymgyrch bob wythnos, a byddwn yn parhau i wneud hyn trwy gydol y flwyddyn.”
Nodyn y golygydd:
Cafodd y dyn a arestiwyd yng ngorsaf King Cross ei gyhuddo o fod â chocên yn ei feddiant â'r bwriad o gyflenwi a bod â heroin yn ei feddiant â'r bwriad o gyflenwi. Atafaelwyd tair ffôn symudol ochr yn ochr â'r cyffuriau.
Cafodd Grant Reid, 39, o Nigg Kirk Road yn Aberdeen, ei remandio i ymddangos yn Llys Ynadon San Steffan heddiw 19/02.
Hefyd yn gysylltiedig â gwarant Llundain roedd swyddogion o Uned Cymorth Gweithredol BTP a'r Heddlu Arbennig.