Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Am 5.30pm heno (3 Tachwedd) ymgasglodd criw o brotestwyr yng ngorsaf Kings Cross.
Fe wnaeth swyddogion Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig hysbysu'r protestwyr fod gorchymyn gwahardd Adran 14a wedi’i ganiatáu a’u cynghori i adael.
At ei gilydd, fe wnaeth Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig bum arestiad am fethu â chydymffurfio â’r hysbysiad.
Fe wnaeth mwyafrif y protestwyr adael heb ddigwyddiad. Erbyn 7.15pm, roedd y gwrthdystiad y tu mewn i'r orsaf wedi dod i ben.
Yna fe fu gwrthdystiad bach y tu allan i'r orsaf.
Am oddeutu 7.45pm, fe wnaeth BTP, gan weithio gyda chefnogaeth heddlu’r Metropolitanaidd, hebrwng grŵp o oddeutu hanner cant o brotestwyr i ffwrdd o’r ardal i Euston.
Fe wnaeth swyddogion arestio un dyn ger gorsaf Euston am ymosodiad cyffredin. Yna gwasgarodd protestwyr o'r ardal.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Sean O’Callaghan,
“Rwy’n falch bod y defnydd o’r ddeddfwriaeth trefn gyhoeddus, a oedd yn berthnasol i weithrediad y rheilffordd, wedi gweithio’n dda heno.
Er bod angen arestiadau cychwynnol, cydymffurfiodd gweddill y protestwyr â'r gorchymyn gwahardd a gadael yr orsaf yn gyflym.
Roedd hwn yn ymgyrch da lle bu partneriaid o BTP, Network Rail a’r Heddlu Metropolitanaidd yn cydweithio i gadw Llundain yn ddiogel ac yn symud”.