Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae nifer o blant bregus wedi’u nodi fel rhai sydd mewn perygl o gael eu hecsbloetio gan gangiau llinellau cyffuriau, yn ystod ymgyrch ar y cyd rhwng Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP), Heddlu Glannau Mersi a Heddlu Swydd Gaer.
Yn ystod yr ymgyrch deuddydd (5-6 Gorffennaf) cafodd swyddogion eu defnyddio mewn gorsafoedd ac ar wasanaethau ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd.
Gan dargedu’r llinellau trên rhwng Lerpwl Lime Street, Cilgwri a Chaer, nod yr ymgyrch oedd nodi ac amddiffyn y bobl ifanc hynny sy'n cael eu recriwtio, neu sydd fwyaf mewn perygl, o gamfanteisio ar linellau cyffuriau.
Fe fu gweithwyr cymdeithasol, partneriaid diogelu lleol ac elusennau blaenllaw ym maes camfanteisio ar blant yn gweithio ochr yn ochr â swyddogion i flaenoriaethu diogelu unigolion y mae gangiau yn camfanteisio arnynt.
Gyda gwasanaethau diogelu wedi’u lleoli ar y safle, roedd pobl ifanc yn gallu derbyn ymyriadau amserol ar yr adeg dyngedfennol a oedd yn hawdd ei chyrraedd. Roedd sefydliadau yn cynnwys Catch 22, Rhieni yn Erbyn Camfanteisio ar Blant (PACE) a gofal cymdeithasol plant a gwasanaethau ieuenctid o awdurdodau lleol yng Nghilgwri, Lerpwl a Swydd Gaer. Diolch i'r dull hwn, gellid gwneud penderfyniadau amlasiantaethol yn y fan a'r lle, gan arwain at strategaeth glir i ymchwilio a diogelu.
Hefyd fe wnaeth swyddogion arestio 13 o bobl, gwnaed atafaeliadau cyffuriau lluosog gan gynnwys heroin, cocên a thabledi a thynnwyd tri arf oddi ar y rheilffordd, ochr yn ochr â diogelu 4 o blant, gan amlygu ymhellach ymroddiad swyddogion a staff i wneud y rheilffordd yn amgylchedd diogel i bawb.
Llinellau cyffuriau yw'r enw a roddir ar werthu cyffuriau lle mae gangiau'n defnyddio llinellau ffôn i symud a chyflenwi cyffuriau, fel arfer o ddinasoedd i drefi llai ac ardaloedd gwledig.
Mae gangiau'n defnyddio'r rhwydwaith rheilffyrdd i gamfanteisio ar blant a phobl agored i niwed i fasnachu cyffuriau ar hyd a lled y wlad.
Roedd mwy na 120 o swyddogion a staff yn rhan o’r ymgyrch, a gafodd ei gydlynu gan Dasglu Llinellau Cyffuriau pwrpasol BTP, tîm Prosiect Medusa Heddlu Glannau Mersi a Heddlu Swydd Gaer. Roedd arweinwyr diogelugan BTP yn cefnogi diogelu plant a phobl ifanc agored i niwed yn uniongyrchol, ochr yn ochr â chodi ymwybyddiaeth o sut i adnabod yr arwyddion i fusnesau lleol.
Roedd yr heddluoedd yn gweithio gyda’i gilydd ac yn defnyddio adnoddau arbenigol, megis cŵn cyffuriau, bwâu metel a thactegau cudd ac amlwg i ryng-gipio arfau, cyffuriau ac arian parod anghyfreithlon, a nodi unigolion bregus y mae gangiau llinellau cyffuriau'n camfanteisio arnynt.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Brian Buddo o Dasglu Llinellau Cyffuriau BTP: “ “Mae canlyniadau’r ymgyrch hon yn dyst i’r cydweithio effeithiol rhyngom ni, ein cydweithwyr plismona a phartneriaid, gyda gwasanaethau wedi’u cydleoli’n cydweithio ar yr union bwynt y mae plentyn yn cael ei ecsbloetio a’i fasnachu, yn dangos sut y gall cydweithio'n effeithiol edrych. Dylai’r arestiadau a’r atafaeliadau a wnaed fod yn rhybudd llym i droseddwyr llinellau cyffuriau – byddwch yn cael eich dal a’ch rhoi gerbron y llysoedd.
“Un o'n blaenoriaethau allweddol yw nodi a diogelu plant sy’n cael eu hecsbloetio yn y math hwn o drosedd i gludo cyffuriau ar y rheilffordd, ochr yn ochr â rhyng-gipio’r cyffuriau niweidiol cyn iddynt gyrraedd ein cymunedau.
“Rydym yn llwyr ymroddedig i sicrhau bod y rhwydwaith rheilffyrdd yn amgylchedd gelyniaethus i gyflenwyr cyffuriau symud eu nwyddau.”
Dywedodd yr Arolygydd Darren Wallace o Heddlu Glannau Mersi: “Mae Heddlu Glannau Mersi yn arwain yn genedlaethol ar yr ymateb i Linellau Cyffuriau trwy Brosiect Medusa. Nid yw gangiau Llinellau Cyffuriau'n rhoi ystyriaeth i'r bobl ifanc, agored i niwed y maent yn eu gorfodi i redeg cyffuriau ledled y wlad, yn aml gyda bygythiadau o drais a brawychu.
“Mae’r canlyniadau’n arddangos llwyddiant cydweithio gyda lluoedd a phartneriaid eraill i gau Llinellau Cyffuriau a diogelu unigolion bregus rhag gafael gangiau gwenwynig.”
“Byddwn yn targedu’n ddiflino’r grwpiau troseddu hynny sy’n ecsbloetio pobl fregus yn ein cymunedau'n llwfr. Bydd y rhaisy’n camfanteisio ar blant yn cael eu dal, eu harestio ac yn wynebu cyfiawnder am droseddau caethwasiaeth modern a masnachu mewn pobl.”
Gallwch riportio unrhyw bryderon i’r heddlu ar 999 os oes trosedd yn digwydd, drwy 101, neu drwy ein desg cyfryngau cymdeithasol drwy Twitter @MerPolCC.
Gallwch hefyd drosglwyddo gwybodaeth drwy Crimestoppers yn ddienw, ar 0800 555 111 neu drwy eu ffurflen ar-lein yn: https://crimestoppers-uk.org