Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:09 12/10/2022
Yn ystod Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb, mae PC Mohammed Abid, sydd wedi'i leoli yn Efrog, yn rhannu ei brofiad o ddioddef camdriniaeth hiliol wrth iddo ymateb i ddigwyddiad yng ngorsaf reilffordd Bradford Forster Square yn haf 2021.
Ymunais â Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) fel swyddog ymateb yn Leeds yn ôl yn 2017 ac ar hyn o bryd rwy'n gweithio i'n Huned Cymorth Gweithredol yn Efrog. Cyn ymuno â BTP, bûm yn gweithio i'r gwasanaeth ambiwlans am wyth mlynedd.
Fel rhan o fy rôl rwy'n darparu cymorth arbenigol mewn digwyddiadau mawr fel gemau pêl-droed ac mae wedi fy ngalluogi i weithio ar ymgyrchoedd ar hyd a lled y wlad. Dim ond fis diwethaf roeddwn i yn Newquay yn gweithio yng Ngŵyl y Boardmasters.
Yn ystod fy nghyfnod fel swyddog ymateb yn Leeds fe wnes fi a fy nghydweithwyr ymateb i adroddiad o frwydr rhwng dau grŵp yng ngorsaf reilffordd Bradford Forster Square. Aethon ni i'r orsaf, ac fe brofodd yn hynod o anodd canfod beth yn union oedd wedi digwydd o'r rhai yn y lleoliad.
Fe benderfynon ni adael i'r ddau grŵp barhau gyda'u teithiau ar wahân, fel y gallen ni wneud ymholiadau pellach i'r digwyddiad. Wrth i mi sefyll gydag un o'r dynion, cerddodd dwy fenyw heibio ac fe wnaeth sarhau un ohonyn nhw'n hiliol.
Fe wnes i ei arestio am y drosedd ac fe ymatebodd gyda llif o enllibion oherwydd lliw fy nghroen. Alla i ddim cofio'n union beth ddywedodd e, heblaw fy ngalw i'n "Fwslim b******" a "twrbanator". Yn y foment honno, roeddwn i'n teimlo'n ofnadwy, ond roedd gen i waith i'w wneud a fy ffocws oedd ei symud i'r ddalfa.
Yn sicr, nid dyma'r tro cyntaf i mi gael fy nhargedu gydag enllibion oherwydd fy ethnigrwydd felly roedd effaith tymor hwy sylwadau'r dyn yn fach iawn - rwyf wedi delio ag ef o'r blaen a byddaf yn delio ag ef eto.Dwi'n gwybod nad yw hyn yr un peth i bawb ac mae cael eich targedu oherwydd pwy ydych chi'n gallu bod yn hynod o ddigalon.
Pan oeddwn i'n ifanc roeddwn i'n ymwybodol iawn nad oeddwn i'n edrych yr un fath â phawb o'm cwmpas, ac fel plentyn rydych chi eisiau ffitio mewn cymaint â phosib. Byddwn i'n ceisio ymbellhau oddi wrth fy hunaniaeth a'm diwylliant - unrhyw beth oedd yn fy nghysylltu â bod yn frown neu Asiaidd.Sylweddolais nad oedd hynny'n iawn, ac wrth i mi dyfu i fyny fe wnes i gofleidio'r hyn sy'n fy ngwneud i, fi.
Wedi'r digwyddiad roedd y gefnogaeth gan fy nghydweithwyr BTP yn ysgubol - roedd yn ei gwneud hi'n gwbl glir bod gennym ni, fel llu, ddim goddefgarwch ar droseddau casineb. Roeddwn i'n teimlo bod y rhai o'm cwmpas wedi'u sarhau'n fwy gan weithredoedd y dyn na fi a phan fyddwn i'n ei frwsio i ffwrdd fe wnaethon nhw ailadrodd nad yw byth yn iawn. Nid oeddwn yn teimlo ar unrhyw adeg bod yn rhaid i mi ddelio ag effaith y digwyddiad hwn ar fy mhen fy hun.
Roedd y gefnogaeth yn ymestyn ymhellach na dim ond y rhai o'm cwmpas. Cysylltodd uwch swyddogion â fi gan fod ganddyn nhw bryderon am fy lles a'm cyfeirio at y gefnogaeth sydd ar gael, ac mae digonedd ohono. Alla i ddim gweld unrhyw fai ar y llu am ei ymateb i'r digwyddiad ac mae'n fy ngwneud i'n falch o roi'r iwnifform BTP ymlaen bob dydd.
Gallaf ddweud yn hyderus bod BTP yn cymryd safbwynt hynod o galed yn erbyn troseddau casineb ar y rheilffordd a byddwn i'n annog unrhyw un sy'n dioddef, neu'n dyst i'r ymddygiad hwn, i'w riportio i ni.Mae'r dyn a achosodd yr enllibion hiliol i mi bellach wedi ei ddedfrydu a gallwn ni sicrhau mai dyma'r canlyniad i unrhyw un sy'n dioddef troseddau casineb.Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ymchwilio'n drwyadl i adroddiadau a sicrhau bod troseddwyr yn cael eu dwyn gerbron y llysoedd.
Ni ddylai unrhyw un gael eu targedu gydag aflonyddu neu drais oherwydd pwy ydyn nhw.
Gall dioddefwyr neu dystion o droseddau casineb ei riportio i BTP drwy decstio 61016, ffonio 0800 40 50 40 neu drwy'r ap Railway Guardian. Os ydych chi mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999.