Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:04 29/05/2020
Mae'r Ysgrifennydd Cartref wedi canmol effaith ymgyrch wydn ledled y wlad i frwydro yn erbyn delio cyffuriau ym maes llinellau cyffuriau gan luoedd sy'n cynnwys Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Creodd BTP Dasglu Llinellau Cyffuriau pwrpasol ym mis Rhagfyr 2019 yn dilyn cyllid gan y Swyddfa Gartref.
Dyma'r unig lu sy'n mynd i'r afael â'r mater yn genedlaethol, gan gyflawni ymgyrchoedd mewn gorsafoedd trên ac ar lwybrau trên ledled Cymru, Lloegr a'r Alban.
Rhoddwyd cyllid gan y Swyddfa Gartref hefyd i Heddlu Metropolitanaidd, Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr a Heddlu Glannau Mersi i sefydlu eu timau Llinellau Cyffuriau eu hunain.
Gyda'i gilydd mae'r lluoedd wedi cynnal 657 o arestiadau ers mis Tachwedd - mae BTP yn cyfrif am 276 o'r arestiadau hynny.
Mae'r llu hefyd wedi atafaelu £63,000 mewn cyffuriau, £108,000 mewn arian parod, ac wedi tynnu 38 o arfau oddi ar y rhwydwaith reilffyrdd.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel: “Rwyf yn benderfynol o roi stop ar gangiau llinellau cyffuriau a’u hatal rhag dychryn ein trefi ac ecsbloetio ein plant.
“Rwyf wedi gweld o lygad y ffynnon y gwaith pwysig y mae’r heddlu’n ei wneud i fynd i’r afael â llinellau cyffuriau, ac mae’r canlyniadau trawiadol hyn yn dangos faint o effaith y mae ein buddsoddiad yn ei chael.
“Bydd yr heddlu bob amser yn cael fy nghefnogaeth i fynd i’r afael â’r bygythiad hwn ac, yn hollbwysig, amddiffyn dioddefwyr.”
Delio cyffuriau ym maes Llinellau Cyffuriau yw symud cyffuriau gan gangiau o ddinasoedd i drefi llai - maent yn aml yn ecsbloetio ac yn dychryn plant neu oedolion sy'n agored i niwed i gludo'r cyffuriau, neu'r arian y mae'n ei gynhyrchu, rhwng lleoliadau.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Gareth Williams, arweinydd Tasglu BTP: “Mae ein Tasglu mewn sefyllfa unigryw. Rydym yn cyflawni ymgyrchoedd yn genedlaethol ledled Cymru, Lloegr a'r Alban ac wedi meithrin dealltwriaeth gref o sut mae'r mater hwn yn effeithio ar gymunedau.
“Mae'r ymgyrchoedd hyn hefyd wedi ein helpu i bennu bod pobl iau, o'u cymharu â lluoedd eraill, yn cael eu hecsbloetio ar y rhwydwaith rheilffyrdd. Mae cyfran fawr o'n harestiadau o dan 18 oed ac mae mwy na hanner o dan 24 oed.
“Prif nodau’r Tasglu hwn yw diogelu’r bobl ifanc hyn, eu tynnu i ffwrdd oddi wrth droseddu, a symud y math hwn o weithgaredd troseddol i ffwrdd o’r rhwydwaith reilffyrdd.
“Mae help y diwydiant rheilffyrdd yma wedi bod yn gwbl amhrisiadwy.
“Wrth i ni weithredu maent wedi bod yn hyfforddi eu staff i nodi arwyddion o ecsbloetio ac mae'r wybodaeth maent wedi'i darparu wedi'i defnyddio i lywio ble rydym yn targedu nesaf."