Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
17:50 30/11/2021
Awr a hanner. Dyna'r cyfan a gymerodd i aelod o'r cyhoedd gael ei aduno â'i beic wedi iddi riportio am ddwyn i Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Roedd perchennog y beic, Miriam Richmond, myfyrwraig ym Mhrifysgol Sheffield, wedi ei sicrhau gyda chlo gwifren i'r rac seiclo yng ngorsaf Sheffield ar ddydd Iau cyn brysio i ddal ei thrên.
Ond pan gafodd y trên ei ganslo dychwelodd i gasglu ei beic dim ond i ddarganfod ei fod wedi'i ddwyn.
Adroddodd Miriam y lladrad i BTP a wnaethwirio teledu cylch cyfyng yn yr orsaf, gan adnabod y lleidr a defnyddio eu gwybodaeth am yr ardal i'w olrhain i fwyty McDonalds gerllaw.
Cafodd ei arestio a dychwelwyd y beic i Miriam a oedd yn ddiolchgar iawn. Nawr mae hynny'n waith cyflym!
Mae ef bellach wedi cael ei gyhuddo am y drosedd ag amodau i beidio â mynd i mewn i orsaf Sheffield a rhoddwyd clo D nodedig iawn i Miriam pan gafodd ei hailuno gyda'i beic.
Dywedodd Miriam, 21 oed: "Doeddwn i ddim yn gallu credu'r peth pan wnaethon nhw fy ngalw i ddweud bod ganddyn nhw fy meic. Doeddwn i ddim yn disgwyl ei weld eto.
"Dydw i ddim yn gyrru felly rwy'n dibynnu'n llwyr ar fy meic i gyrraedd fy lleoliad prifysgol. Rwy'n ddiolchgar iawn i BTP am eu gwaith cyflym."