Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:20 01/03/2022
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig wedi cynyddu ei batrolau ar draws gwasanaethau South Western Railway i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau treisgar.
Mae'r fenter newydd, o'r enw Ymgyrch Toyota ac a ariennir gan SWR, yn cynnwys mwy o swyddogion yn teithio'r rhwydwaith o Lundain Waterloo i Southampton Central a thu hwnt i Dorset.
Dechreuodd ym mis Ionawr 2022 ac mae'n targedu pob lleoliad poblogaidd gan gynnwys Southampton Central a Woking, gyda swyddogion yn rhoi sylw manwl i ddigwyddiadau lle mae staff SWR yn ddioddefwyr.
Yn ystod un gweithrediad yn Waterloo ar ddydd Iau 17 Chwefror, gwnaeth swyddogion arestiad am fod ag arf ymosodol yn ei feddiant, arestiwyd tri dyn am feddu ar ganabis, arestiwyd un am ymosodiad cyffredin, un arall wedi'i arestio am fod yn feddw ac yn afreolus, a chanfuwyd a ddiogelwyd tri o bobl a oedd ar goll.
Mae gweithrediadau tebyg wedi digwydd ers i'r fenter ddechrau a maent yn cyfuno â'r patrolau dyddiol mae swyddogion yn eu cynnal ar draws gwasanaethau SWR.
Un o brif nodweddion Ymgyrch Toyota yw targedu ardaloedd lle mae aelodau o staff y rheilffyrdd wedi dioddef cam-drin geiriol neu gorfforol.
Dywedodd Tom Robins, uwch reolwr diogelwch a throseddau llwybrau SWR: "Mae Ymgyrch Toyota wedi llwyddo i roi tawelwch meddwl a phresenoldeb amlygrwydd uchel i'n teithwyr a'n staff.
"Mae'r gwaith rhagweithiol mewn lleoliadau lle ceir problemau wedi lleihau troseddau'n sylweddol yn erbyn ein teithwyr, ein staff a'n seilwaith.
"Cyflawnodd Ymgyrch Toyota ei briff a mwy, rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth y mae BTP wedi'i rhoi i wneud ein rheilffordd yn lle diogel i bawb."
Dywedodd Prif Arolygydd BTP Paul Donovan: "Diogelwch staff SWR a'r teithwyr y maent yn eu cynorthwyo yw ein prif flaenoriaeth.
"Mae'r cyllid cynyddol hwn wedi sicrhau y gallwn gael mwy o swyddogion allan ar y rheng flaen ac i fwy o ardaloedd, gan fynd i'r afael â digwyddiadau wrth i ni batrolio a rhoi presenoldeb calonogol i'r rhai sy'n defnyddio'r rheilffordd."