Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymunodd Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) â lluoedd partner ar ymgyrchoedd ar y cyd ar draws De-orllewin Lloegr gyda'r nod o darfu ar weithgarwch Llinellau Cyffuriau yn y rhanbarth.
Ymgymerwyd â’r ymgyrchoedd, sy’n dod o dan yr enw cod ‘Ymgyrch Enhance’, mewn partneriaeth â heddluoedd Avon a Gwlad yr Haf, Dorset a Dyfnaint a Chernyw
Mae'n rhan o ymdrechion beunyddiol Tasglu Llinellau Cyffuriau BTP i wneud y rheilffordd yn amgylchedd gelyniaethus i droseddwyr trefnedig symud cyffuriau ac arian anghyfreithlon ledled y DU.
Sefydlwyd y Tasglu pwrpasol gyda chyllid y Swyddfa Gartref ym mis Rhagfyr 2019.
Nod allweddol y tîm yw nodi a diogelu plant ac oedolion agored i niwed sy'n aml yn cael eu hecsbloetio gan y troseddwyr trefnedig hyn i gludo'r cyffuriau a'r arian parod rhwng lleoliadau mewnforio ac allforio.
Gall y lleoliadau hyn fod gannoedd o filltiroedd oddi wrth ei gilydd, ac mae'r Tasglu yn cynnwys ardaloedd mor bell i'r de â Chernyw a chyn belled i'r gogledd â phen yr Alban.
Mae Ymgyrch Enhance wedi bod yn rhedeg ers dechrau mis Chwefror, sy'n cynnwys tri chyfnod o wythnos o weithgarwch â ffocws yn targedu Llinellau Cyffuriau - gyda'r wythnos olaf yn dod i ben ar 19 Mawrth.
Yn ystod yr amser hwnnw, fe wnaeth swyddogion BTP arestio 78 o bobl, atafaelu 48 casgliad o gyffuriau a £69k mewn arian parod. Fe wnaethant hefyd dynnu 15 o arfau peryglus oddi ar y rhwydwaith reilffyrdd ac, yn hollbwysig, fe wnaethant nodi ac atgyfeirio plant ac oedolion agored i niwed a gafodd eu dal yn y gweithgarwch hwn i'w diogelu.
Dywedodd arweinydd Tasglu Llinellau Cyffuriau BTP, y Ditectif Uwcharolygydd Gareth Williams: “Mae'n hanfodol ein bod ni'n partneru gyda'n cydweithwyr heddlu ar draws y siroedd i rannu gwybodaeth er mwyn tarfu ar fodel busnes cyflenwi cyffuriau Llinellau Cyffuriau.
“Mae'r canlyniadau rhagorol yn dangos bod ymdrech wirioneddol ar y cyd yn cynyddu ein heffaith aflonyddgar i'r eithaf, ond hefyd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau lleol sy'n cael eu niweidio trwy'r troseddoldeb ecsbloetiol hwn."
Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Heddlu Dyfnaint a Cernyw, Ed Wright: .“Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â BTP i darfu ar weithgarwch gangiau cyffuriau Llinellau Cyffuriau yn ein hardal. Mae gangiau Llinellau Cyffuriau yn ecsbloetio plant ac oedolion sy'n agored i niwed i gludo a gwerthu cyffuriau; eu paratoi, eu defnyddio a'u bygwth a'u rhoi mewn perygl sylweddol.
“Mae gangiau Llinellau Cyffuriau yn achosi niwed sylweddol, i’r rhai y maent yn eu hecsbloetio a’r rhai sy’n cael yr anffawd i groesi eu llwybr. Rydym wedi bod yn gweithio'n galed i fynd i'r afael â'r bygythiad maen nhw'n ei beri ac amharu ar eu gweithgarwch lle bynnag y gallwn er mwyn cadw pobl yn ein cymunedau yn ddiogel.”
Dywedodd arweinydd Heddlu Avon a Gwlad yr Haf ar gyfer Llinellau Cyffuriau, yr Uwcharolygydd Kerry Paterson: “Mae delio cyffuriau ym maes Llinellau Cyffuriau yn effeithio ar gymunedau ledled y wlad trwy niweidio ein pobl fwyaf agored i niwed a chynyddu nifer y troseddau ar garreg ein drws.
“Rydym yn hapus â chanlyniadau Ymgyrch Enhance, sy’n golygu bod gennym lai o ddelwyr, cyffuriau, ac arfau peryglus ar ein strydoedd.
“Rydym am anfon neges glir at y rhai sy’n gweithredu Llinellau Cyffuriau yn ardal ein llu na fyddwn yn goddef y math hwn o droseddoldeb a byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid fel BTP i atal y troseddau niweidiol hyn”.
Dywedodd Uwcharolygydd Heddlu Dorset, Richard Bell: “Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i weithio mewn partneriaeth â BTP a'n cydweithwyr yn yr Uned Troseddau Trefnedig Rhanbarthol i fynd i'r afael â mater Llinellau Cyffuriau yn uniongyrchol.
“Mae’r canlyniadau wedi bod yn drawiadol gyda nifer o arestiadau yn ogystal ag atafaelu cyffuriau ac arfau a amheuir. Yn bwysicaf oll, rydym hefyd wedi diogelu nifer o unigolion a oedd yn cael eu hecsbloetio gan y gangiau troseddol hyn, gan eu hamddiffyn nhw a'n cymunedau ehangach."